Tír na nÓg

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Tír na n-Óg)

Tír na nÓg yw "Gwlad yr Ieuenctid" ym mytholeg Gwyddelig a'r Wyddeleg ei hun (tír: gwlad; na: yr; nÓg: ieuenctid, sydd yr un peth o ran strwythur geiriol â'r Gymraeg). Mae'n wlad arallfydol baradwysaidd lle na cheir na haint, na henaint, nac angau. Mae'n gorwedd y tu hwnt i fyd y ddynoliaeth. Yn y chwedl Wyddeleg gynnar Immram Brain (maic Febail)(Mordaith Brân (ap Febail)), y mae'r arwr Brain a'i gyd-ymdeithion yn ymweld ag ynys sy'n cynrychioli Tír na nÓg.

Cyfansoddodd y bardd T. Gwynn Jones awdl delynegol o'r enw 'Tir na n-Óg' sy'n sôn am gariad Osian a Nia Ben Aur, merch brenin Tír na n-Óg.

'Mae Tír na n-Óg yn wlad,
Lle mae haul yn lliwio môr,
Fore neu hwyr, yn farwor [gweddillion tân glo],
Heb wae trist adnabod tranc,
Tragywydd y trig [preswylfa] ieuanc!'[1]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. T. Gwynn Jones, Caniadau (Wrecsam, 1934), tt. 60-74
Eginyn erthygl sydd uchod am fytholeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato