System gylchredol

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Rhestr Afiechydon
Pigiad
Pwyswch ar dangos i weld y rhestr.
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu


Mewn anatomeg ddynol, mae'r system gylchredol yn pwmpio a sianelu gwaed o amgylch y corff (a'r ysgyfaint) drwy rym y galon a hynny drwy wythiennau, capilarïau, a rhydweliau.

Mae gwaed yn ochor dde'r galon yn cael ei bwmpio i'r ysgyfaint. Yn yr ysgyfaint, mae'r gwaed yn cyfnewid nwyon ac yn derbyn ocsigen o'r ysgyfaint ac yn rhoi carbon deuocsid. Wedyn, mae'r gwaed sy'n cynnwys llawer o ocsigen erbyn hyn, yn dychwelyd i ochor chwith y galon, lle caiff ei bwmpio drwy'r rhydweliau i weddill y corff. Mae'r gwaed yn cludo ocsigen i'r corff felly, ac mae'n hel carbon deuocsid o'r corff. Wedyn, mae'r gwaed yn dychwelyd o'r corff trwy'r gwythiennau, gyda llai o ocsigen a mwy o garbon deuocsid; mae'r gwaed is-ocsigen hwn yn cyrraedd ochr dde'r galon, o ble mae'n cael ei bwmpio i'r ysgyfaint unwaith eto.

System cylchredol dynol. Yn y diagram hwn o bibellau gwaed, mae coch yn cynnwys ocsigen a glas heb ocsigen.

Yn ogystal â nwyon, mae'r gwaed yn cludo sylweddau eraill drwy'r corff. Er enghraifft: mae e'n cario sylweddau sy'n trawsgludo ynni o fwyd i'r cyhyrau; hormonau; a sylweddau gwastraff o'r corff, a dynnir o'r gwaed gan yr arennau.

Meddygaeth amgen[golygu]

Dywedir fod y llysiau canlynol yn help i wella cylchrediad y gwaed: pig yr Aran, pupur du, rhosmari, sinsir a saets y waun.

Gweler hefyd[golygu]

Skull template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am anatomeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.