Syr William Williams, Barwnig 1af Gray's Inn
Syr William Williams, Barwnig 1af Gray's Inn | |
---|---|
Ganwyd | 1634 Ynys Môn |
Bu farw | 11 Gorffennaf 1700 Llundain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd, cyfreithiwr |
Swydd | Llefarydd Tŷ'r Cyffredin, Cyfreithiwr Cyffredinol dros Gymru a Lloegr, Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Member of the 1661-79 Parliament, Member of the 1679 Parliament, Member of the 1680-81 Parliament, Member of the 1685-87 Parliament, Member of the 1681 Parliament, Member of the 1689-90 Parliament, Member of the 1695-98 Parliament |
Plaid Wleidyddol | Chwigiaid |
Tad | Hugh Williams |
Mam | Emma Dolben |
Priod | Margaret Cyffin |
Plant | Emma Williams, John Williams, William Williams |
Llinach | Teulu Wynniaid, Rhiwabon |
Gwobr/au | Marchog Faglor |
Cyfreithiwr a gwleidydd oedd Syr William Williams (1634 – 11 Gorffennaf 1700). Roedd yn fab i Emma Williams a Hugh Williams, rheithor Llantrisant a Llanrhyddlad. Cafodd ei addysg yn Ngholeg Iesu Rhydychen ac yn Gray's Inn, cafodd ei dderbyn yno yn 1650, ac fe'i etholwyd ef yn drysorydd yn 1681.
Cefndir
[golygu | golygu cod]Ganwyd yn Ynys Môn. Roedd William Williams yn gofiadur Caer o 1667 hyd at 1684. Priododd aeres a merch Watkin Kyffin, Margaret Kyffin yn 1664, cafwyd 3 o blant, Emma, John ac William. Methodd â chael ei ethol yn aelod seneddol bwrdeisdref Caer yn 1672. Yn 1688, etholwyd ef dros Fiwmares i Senedd y Convention (1689-1690) yno bu'n llunio'r Mesur Iawnderau. Yn Hydref 1689, gwnaethpwyd ef yn Gwnsler y Brenin ac yna yn 1692 yn gyfreithiwr i'r Frenhines.[1]
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- Oxford Dictionary of National Biography;
- Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1949, 76;
- Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, vi, 253;
- J. E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families (1914), 18-9;
- W. R. Williams, The History of the Parliamentary Representation of Wales (1895).
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "WILLIAMS, Syr, WILLIAM (1634-1700), cyfreithiwr a gwleidyddwr. | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-01-24.