Syndrom Edwards

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Mae syndrom Edwards[1], a elwir hefyd yn trisomy 18, yn anhwylder genetig a achosir gan bresenoldeb y cyfan, neu ran, o drydydd gopi o gromosom 18[2].  Mae llawer o rannau o'r corff yn cael eu heffeithio gan y cyflwr.  Yn aml, caiff babanod eu geni yn fychan gyda ddiffygion ar y galon. Ymhlith y nodweddion eraill mae pen bychan, gennau bach, dwrn wedi ei gau gyda'r bysedd yn gorgyffwrdd, ac anabledd deallusol difrifol.

Mae'r rhan fwyaf o achosion o syndrom Edwards yn digwydd oherwydd problemau wrth ffurfio celloedd atgenhedlu neu yn ystod datblygiad cynnar. Mae'r tebygolrwydd o gael babi efo'r cyflwr yn cynyddu gydag oed y fam.  Yn achlysurol iawn gall y cyflwr cael ei etifeddu gan riant. O bryd i'w gilydd, ni fydd gan bob un o'r celloedd y cromosom ychwanegol, a elwir yn trisomi mosäig, a gall symptomau yn yr achosion hyn fod yn llai difrifol. Gall archwiliad uwchsain canfod amheuaeth am bresenoldeb y cyflwr, y gellir ei gadarnhau gan amniosentesis.

Yr unig driniaeth yw gofalu.  Ar ôl cael un plentyn gyda'r cyflwr, mae'r risg o gael ail yn nodweddiadol o gwmpas un y cant.  Dyma'r cyflwr ail-amlaf sy'n cael ei achosi gan bresenoldeb trydydd cromosom ar adeg geni, yr amlaf yw syndrom Down.

Mae syndrom Edwards yn digwydd mewn oddeutu un o bob 5,000 o enedigaethau byw.  Mae rhai astudiaethau'n awgrymu bod mwy o fabanod sy'n cael eu geni efo'r cyflwr yn ferched. Mae llawer o'r rhai yr effeithir arnynt yn marw cyn eu geni. Mae goroesi y tu hwnt i flwyddyn o fywyd oddeutu 5-25% gyda 90% yn farw cyn cyraedd 5 mlwydd oed[2].  Fe'i henwir ar ôl John Hilton Edwards, a ddisgrifiodd y syndrom gyntaf ym 1960[3].

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Silla-ruedas.svg Eginyn erthygl sydd uchod am anabledd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.