Neidio i'r cynnwys

Syltana

Oddi ar Wicipedia
Syltana
Enghraifft o:grape variety Edit this on Wikidata
Mathgrawnwin, grape variety Edit this on Wikidata
Rhiant dacsonVitis vinifera Edit this on Wikidata
GwladTwrci Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/04hfkm edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae'r syltana, hefyd swltana[1] yn fath o rawnwin "gwyn" (gwyrdd golau), hirgrwn, di-hadau, a elwir hefyd yn sultanina, Thompson Seedless (Unol Daleithiau America), Lady de Coverly (Lloegr), a Kishmish(Iran, Irac, Palesteina, Pacistan, Affganistan, India).[2] Fe'i gelwir hefyd yn rawnwin İzmir, neu Manisa yn Nhwrci, gan fod yr amrywiaeth hon wedi'i thyfu'n helaeth yn y rhanbarth o amgylch y dinasoedd hynny. Tybir ei bod yn tarddu o Asia Leiaf, a ddaeth yn rhan o'r Ymerodraeth Otomanaidd yn ddiweddarach.[2]

Mae'r sillafiad Cymraeg "syltana" yn ei gwneud yn haws i ddiffinio'r ystyr yn wahanol i "swltana" sef teitl gwraig y swltan, sef uchelwr Twrcaidd.

Mewn rhai gwledydd, yn enwedig gwledydd Saesneg eu hiaith yn y Gymanwlad, defnyddir yr enw 'sultana' neu sultanis ar gyfer rheisin sultana ('sultana raisins').

Yn tarddu o Asia Leiaf, sydd bellach yn rhan o Iran a Thwrci heddiw, cafodd y grawnwin Sultana ei drin am ei natur ddi-had a'i flas melys.

Aeth yr Otomaniaid â'r amrywiaeth grawnwin sultana i ynys Creta yn y 19g.[3]

Defnyddiau o'r syltana

[golygu | golygu cod]

Defnyddir y grawnwin swltana hefyd i wneud gwin gwyn.[4][5]Cyfeirir ato fel "grawnwin tair ffordd" oherwydd ei fod yn cael ei ddefnyddio fel grawnwin bwrdd, i wneud rhesins ac i wneud gwin.[6]

Grawnfwyd

[golygu | golygu cod]

Defnyddir syltanas gyda cyrains a rhesin fel un o'r cynhwysion mewn grawnfwyd brecwast megis miwsli a granola.

Melysion

[golygu | golygu cod]

Gellir defnyddio syltanas fel cynhwysyn mewn bara brith a phicau ar y maen.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Syltana". Geiriadur Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 12 Awst 2016.
  2. 1 2 Bioletti, Frederic T. (1918). "The Seedless Raisin Grapes". Bulletin of the California Agricultural Experimental Station (298): 86. //books.google.com/books?id=aTrOAAAAMAAJ&pg=PARA3-PA77. Adalwyd 10 Rhagfyr 2011.
  3. Osmanlı İmparatorluğu ve Girit bunalımı (1896–1908) ar Google Books
  4. "Sultana". American Heritage Dictionary (arg. 4th). 2000. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2005-09-09.
  5. Appellation America. "Thompson Seedless". Cyrchwyd 2006-06-15.
  6. "Wine Glossary - Words that start with T". Cyrchwyd 22 Rhagfyr 2016.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am ffrwyth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.