Neidio i'r cynnwys

Susanna Agnelli

Oddi ar Wicipedia
Susanna Agnelli
GanwydSusanna Agnelli Edit this on Wikidata
24 Ebrill 1922 Edit this on Wikidata
Torino Edit this on Wikidata
Bu farw15 Mai 2009 Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
Man preswylRhufain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Eidal Yr Eidal
Alma mater
Galwedigaethentrepreneur, gwleidydd, llenor, diplomydd, bywgraffydd, dyngarwr Edit this on Wikidata
SwyddAelod o'r Senedd Eidalaidd, Gweinidog Tramor yr Eidal, Gweinidog heb Bortffolio (yr Eidal), Aelod Senedd Ewrop, Dirprwy Aelod Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop, mayor of Monte Argentario, llywydd corfforaeth, Aelod o Siambr Dirprwyon Gweriniaeth yr Eidal, Aelod o Siambr Dirprwyon Gweriniaeth yr Eidal Edit this on Wikidata
Adnabyddus amVestivamo alla marinara Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Weriniaethol yr Eidal Edit this on Wikidata
TadEdoardo Agnelli Edit this on Wikidata
MamVirginia Bourbon del Monte Edit this on Wikidata
PriodUrbano Rattazzi Edit this on Wikidata
PlantSamaritana Rattazzi, Ilaria dei conti Rattazzi, Cristiano Rattazzi, Delfina dei conti Rattazzi, Lupo dei conti Rattazzi, Priscilla Rattazzi Edit this on Wikidata
Gwobr/auAcqui Award of History, Urdd Teilyngdod ar gyfer Gwasanaethau Arbennig, Marchog Uwch-Groes Urdd Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Order of the Tribute to the Republic, Premio Bancarella Edit this on Wikidata

Awdures a gwleidydd o'r Eidal oedd Susanna Agnelli (24 Ebrill 1922 - 15 Mai 2009) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel entrepreneur a diplomydd. Mae hefyd yn cael ei chofio fel y fenyw gyntaf i fod yn Weinidog dros Faterion Tramor yr Eidal. Roedd yn aelod o Blaid Weriniaethol yr Eidal. Daeth ei hunangofiant Vestivamo alla marinara ("Wastad yn Gwisgo Siwtiai Morwyr", 1983) yn un o lyfrau mwyaf poblogaidd yr Eidal.

Fe'i ganed yn Torino (Piemonteg: Turin) a bu farw yn Rhufain. [1][2]

Magwraeth

[golygu | golygu cod]

Edoardo Agnelli a Donna Virginia Bourbon del Monte, merch Tywysog San Faustino a'i wraig Jane Campbell oedd ei rhieni. Roedd ei brawd, Gianni Agnelli (1921 – 2003), yn bennaeth cwmni ceir Fiat hyd at 1996 ac mae'r teulu Agnelli yn parhau hyd heddiw (2019) i ddal mwyafrif cyfranddaliadau'r cwmni. [3]

Gwleidyddiaeth

[golygu | golygu cod]

Yn 1974, penodwyd Agnelli i swydd wleidyddol, pan ddaeth yn faer Monte Argentario. Roedd ei thad-cu a'i hen dad-cu wedi bod yn feiri hefyd. Gwasanaethodd Agnelli fel maer am ddegawd, o 1974-1984. Fe ysbrydolodd y profiad hi i fynd yn ddyfnach i fyd gwleidyddiaeth genedlaethol. Ac yn 1976 etholwyd Agnelli i Senedd yr Eidal fel aelod o'r Blaid Weriniaethol (PRI). Yn 1979 (hyd at 1981), daeth yn ASE yn Senedd Ewrop. Yn 1983 dychwelodd i Senedd yr Eidal, gan ddod yn seneddwr.

Yn 1945 priododd hi yr iarll Urbano Rattazzi (1918-2012) a chawsant chwech o blant; roedd yr ieuengaf ohonynt yn ffotograffydd, sef Priscilla Rattazzi. Roedd yr entrepreneur Samaritana Rattazz hefyd yn blentyn iddi. Fodd bynnag, diddymwyd y briodas ym 1975 a rhannodd ei hamser rhwng Dinas Efrog Newydd a'r Eidal; bu'n gefnogwr ffyddlon o Robert Denning o'r cwmni "Denning & Fourcade", a gynlluniodd dros 15 o gartrefi iddi yn Manhattan, De America a'r Eidal.

Aelodaeth

[golygu | golygu cod]

Bu'n aelod o Gynulliad Seneddol Cyngor Ewrop am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau

[golygu | golygu cod]
  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Acqui Award of History, Urdd Teilyngdod ar gyfer Gwasanaethau Arbennig, Marchog Uwch-Groes Urdd Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Order of the Tribute to the Republic, Premio Bancarella (1975)[4] .


Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 "Susanna Agnelli". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Susanna Agnelli". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Susanna Agnelli". "Susanna Agnelli". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  2. Dyddiad marw: http://www.nytimes.com/2009/05/17/world/europe/17agnelli.html?_r=1&ref=obituaries. Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 "Susanna Agnelli". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Susanna Agnelli". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Susanna Agnelli". "Susanna Agnelli". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  3. Anrhydeddau: https://premiobancarella.it/site/?page_id=588.
  4. https://premiobancarella.it/site/?page_id=588.