Neidio i'r cynnwys

Susan Rice

Oddi ar Wicipedia
Susan Rice
Cynghorydd Diogelwch Cenedlaethol
Mewn swydd
1 Gorffennaf 2013 – 20 Ionawr 2017
ArlywyddBarack Obama
DirprwyTony Blinken
Rhagflaenwyd ganThomas Donilon
Dilynwyd ganMichael T. Flynn
27ain Llysgennad yr Unol Daleithiau i'r Cenhedloedd Unedig
Mewn swydd
22 Ionawr 2009 – 1 Gorffennaf 2013
ArlywyddBarack Obama
Rhagflaenwyd ganZalmay Khalilzad
Dilynwyd ganRosemary DiCarlo (Dros Dro)
12fed Ysgrifennydd Gwladol Cynorthwyol dros Faterion Affrica
Mewn swydd
9 Hydref 1997 – 20 Ionawr 2001
ArlywyddBill Clinton
Rhagflaenwyd ganGeorge Moose
Dilynwyd ganWalter Kansteiner
Manylion personol
GanedSusan Elizabeth Rice
(1964-11-17) 17 Tachwedd 1964 (61 oed)
Washington, D.C., Unol Daleithiau
Plaid gwleidyddolDemocrataid
Alma materPrifysgol Stanford a
Coleg Newydd, Rhydychen

Diplomydd o'r Unol Daleithiau yw Susan Elizabeth Rice (ganwyd 17 Tachwedd 1964). Hi oedd y Cynghorydd Diogelwch Cenedlaethol o 2013 i 2017 yn ystod arlywyddiaeth Barack Obama. Cyn hynny, hi oedd Llysgennad yr Unol Daleithiau i'r Cenhedloedd Unedig rhwng 2009 a 2013.

Rice gyda Barack Obama a Joe Biden, Rhagfyr 2008

Gwasanaethodd Rice ar bwrdd y Cyngor Diogelwch Cenedlaethol ac fel Ysgrifennydd Gwladol Cynorthwyol dros Faterion Affrica yn ystod ail dymor yr Arlywydd Bill Clinton. Cadarnhawyd Rice fel llysgennad y Cenhedloedd Unedig gan Senedd yr Unol Daleithiau trwy gydsyniad unfrydol ar 22 Ionawr 2009.

Hi yw'r fenyw Jamaican-Americanaidd gyntaf i ddal y swydd honno. Dilynodd Rice Tom Donilon fel Cynghorydd Diogelwch Cenedlaethol. Cyhoeddwyd ymddiswyddiad Donilon ar 5 Mehefin 2013.[1]

Ar 8 Mawrth 2017, ymunodd Rice â Phrifysgol America fel cymrawd ymchwil ymweliadol yn yr Ysgol Gwasanaeth Rhyngwladol (SIS) yn y brifysgol. Yn ei chyfnod preswyl, roedd hi'n bwriadu gweithio ar ei llyfr nesaf a mentora myfyrwyr SIS ifanc.[2]

Ar 28 Mawrth 2018, penodwyd Rice i fwrdd cyfarwyddwyr yn Netflix.[3]

Ras Senedd yr Unol Daleithiau 2018 ym Maine

[golygu | golygu cod]

Ar ôl i seneddwr yr Unol Daleithiau Susan Collins o Maine bleidleisio o blaid Brett Kavanaugh dros y Goruchaf Lys, fe wnaeth Rice ystyried yn gyhoeddus her i Collins yn 2020.[4][5] Ym mis Ebrill 2019, fodd bynnag, cyhoeddodd Rice na fyddai’n ceisio rhediad Senedd yn erbyn Collins yn 2020.[6]

Etholiad arlywyddol 2020

[golygu | golygu cod]

Ym mis Gorffennaf 2020, adroddwyd yn eang bod Rice yn cael ei hystyried fel phartner i Joe Biden ar gyfer Is-Arlywydd yn etholiad cyffredinol 2020.[7]

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Ganwyd Rice ar 17 Tachwedd 1964 yn Washington, DC. Astudiodd ym Mhrifysgol Stanford a'r Coleg Newydd, Rhydychen. Americanwr Affricanaidd yw Rice yr oedd ei neiniau a theidiau mamol yn dod o Jamaica.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Tom Donilon resigns as Obama national security adviser Susan Rice to take over Archifwyd 2019-11-30 yn y Peiriant Wayback Washington Post.com
  2. "Ambassador Susan Rice Joins American University School of International Service | News | School of International Service | American University, Washington D.C." American University (yn Saesneg). Cyrchwyd 2 Chwefror 2018.
  3. Spangler, Todd (2018-03-28). "Netflix Names Former Obama Adviser and U.N. Ambassador Susan Rice to Board". Variety (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-10-07.
  4. Bradner, Eric. "Susan Rice tweets 'Me' when asked who could challenge Sen. Collins in 2020". CNN. Cyrchwyd October 7, 2018.
  5. "Does Collins already have a challenger in Maine? 'Me,' says former Obama official". USA TODAY (yn Saesneg). Cyrchwyd 7 Hydref 2018.
  6. Susan Rice Says She Won't Challenge Susan Collins in 2020, Associated Press, 11 Ebrill 2019.
  7. "In VP search, Biden has a known quantity in Susan Rice". AP NEWS. 2020-07-24. Cyrchwyd 2020-07-28.