Neidio i'r cynnwys

Sun Ra

Oddi ar Wicipedia
Sun Ra
Ganwyd22 Mai 1914 Edit this on Wikidata
Birmingham, Alabama Edit this on Wikidata
Bu farw30 Mai 1993 Edit this on Wikidata
o niwmonia Edit this on Wikidata
Birmingham, Alabama Edit this on Wikidata
Label recordioEl Saturn Records, A&M Records, BYG Records, ESP-Disk Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Amaethyddol a Mecanyddol Alabama
  • A. H. Parker High School Edit this on Wikidata
Galwedigaetharweinydd band, cyfansoddwr, arweinydd, cerddor jazz, pianydd, bardd, allweddellwr, athronydd, cyfarwyddwr cerdd, llenor, synthesizer player, actor, trefnydd cerdd, offerynnwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Heliocentric Worlds of Sun Ra, Volume One, Jazz in Silhouette, Purple Night Edit this on Wikidata
Arddulljazz, jazz fusion, bebop, cerddoriaeth arbrofol, space music, avant-garde jazz, free jazz, cerddoriaeth swing, hard bop Edit this on Wikidata
Gwobr/auNEA Jazz Masters Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.sunra.com Edit this on Wikidata

Roedd Sun Ra (ganwyd Herman "Sonny" Poole Blount; 22 Mai 191430 Mai 1993)[1] yn gyfansoddwr a chwaraewr piano ac organ Jazz avant-garde arbrofol Americanaidd. Roedd yn adnabyddus am ei gerddoriaeth a'i ddelwedd unigryw. [2] Cafodd ei eni yn Birmingham, Alabama, UDA.

Sŵn cosmig

[golygu | golygu cod]

Roedd cerddoriaeth Sun Ra yn arbrofol, gan geisio meysydd sain newydd radicalaidd. Sefydlodd yr Arkestra, band oedd yn dal i berfformio ar ei farwolaeeth. Roedd yn adnabyddus am ei estheteg cosmig. Mae hefyd yn cael ei ystyried yn ffigwr allweddol mewn Afrofuturism.[3]

Gwisgodd yn arddull yr Aifft oes y Pharo a honnodd nad o’r planed yma ond yn dod o’r blaned Sadwrn. Pregethodd athroniaethau astrolegol rhyfedd.

Yn ystod ei yrfa, recordiodd gannoedd o albymau, llawer ohonynt wedi'u rhyddhau gan labeli recordiau bach ac felly dim ond ar gael mewn rhifynnau bach iawn.

Trwy ei arddull a'i syniadau eclectig ei hun, roedd yn polareiddio beirniaid a chynulleidfaoedd. Rhai yn ei ystyried yn arloeswr dyfeisgar, eraill yn ei ystyried yn dwyll. Fodd bynnag, mae Sun Ra yn cael ei gyfrif fel un o arloeswyr Jazz Rhydd.[4]

Sun Ra a'r Arkestra

[golygu | golygu cod]

Yn y 1950au, dechreuodd chwarae Jazz swing band mawr. Dechreodd gyfansoddi cerddoriaeth a threfniadau ei hun. Ar gyfer bywoliaeth, roedd hefyd gweithio yn y DeLisa Club yn Chicago mewn band preswyl yn cael ei arwain gan Red Saunders. Ym 1952 rhoddodd y gorau i'w enw geni, cymerodd yr enw Sun Ra (Ra yw enw'r duw haul hynafol Yr Aifft).

Ffuriodd ensamble mawr - yr Arkestra. Roedd ei Jazz cosmig Sun Ra a'r Arkestra yn nodweddiadol am themâu gofod, planedau a ser. Aelodau mwyaf adnabyddus yr Arkestra oedd y sacsoffonwyr John Gilmore, ei waith wedi'i ddylanwadu gan John Coltrane a Marshall Allen. Gilmore yn parhau i arwain yr Arkestra ar ôl marwolaeth Sun Ra. [5]

Yn ôl beirniaid cerddoriaeth a haneswyr jazz, crëwyd rhai o'i weithiau gorau yn ystod y cyfnod hwn. Mae albymau nodedig Sun Ra o'r 1950au yn cynnwys Super-Sonic Jazz, Visits Planet Earth, Interstellar Low Ways, Angels and Demons at Play, We Travel the Space Ways, a Jazzin Silhouette, ymysg eraill.

Yn y cyfnod yma aeth yn fwy ecsentrig gan wisgo yn arddull yr Aifft oes y Pharo. Honnodd nad o’r Ddaear y daeth ond o’r blaned Sadwrn. Datblygodd ddelwedd fel cymeriad ffuglennol o athroniaethau cosmig gyda barddoniaeth yn pregethu am ymwybyddiaeth a heddwch.

Wynebodd broblemau hiliaeth at daith yn chwarae gyda'r Arkestra, ond nid oedd yn sôn amdano'n aml. Yn gyffredinol, yn wahanol i lawer o gerddorion du ei genhedlaeth, prin siaradodd am bynciau dadleuol gan ganolbwyntio ar gerddoriaeth. Roedd yr ensemble yr Arkestra y gerddorion roedd yn chwarae, teithio ac yn byw gyda nhw yn ymddangos fel pe bai mewn sect crefyddol.

Yn ystod y 1960au cyrhaeddodd brig ei boblogrwydd - adeg Roc Psychedelic, y Beats a'r Hippies. Mae albymau Sun Ra o'r cyfnod yma'n aml yn anodd ac yn drysu gwrandawyr sy'n clywed ei gerddoriaeth am y tro cyntaf. Mae recordiau adnabyddus o'r cyfnod yn cynnwys The Magic City, When Sun Comes Out ac Other Planes of There.

Yn 1969 dechreuodd Sun Ra ganolbwyntio ar bosibiliadau cynhyrchu sain electronig syntheseiswyr. Benthycodd Minimoog gan Robert Moog, a ddefnyddiwyd yn gyntaf ar yr albymau My Brother the Wind and Space Probe. [6]

Yn ystod y 1970au ac yn ddiweddarach, symudodd cerddoriaeth Sun Ra a'r Arkestra mewn ffyrdd mwy confensiynol, ond arhosodd yn hynod eclectig ac egnïol. Erbyn y 70au, roedd hefyd yn chwarae ambell i gân Jazz adnabyddus fel Round Midnight (gan Thelonious Monk yn wreddiol) yn y cyngherddau.

Ymunodd y gantores June Tyson, yr unig ferch yn yr Arkestra. Gweithiodd Tyson hefyd fel dylunydd gwisgoedd, coreograffydd a feiolinydd y band. Arhosodd Tyson yn gantores y band am 25 o flynyddoedd.[7]

Yn yr 1980au dechreuodd Sun Ra hefyd fwynhau caneuon ffilmiau Walt Disney. Dechreuodd cynnwys darnau o gerddoriaeth Disney mewn llawer o'i berfformiadau. Ar ddiwedd y 1980au, perfformiodd yr Arkestra gyngerdd hyd yn oed yn Disney World. Mae fersiwn yr Arkestra o Pink Elephants On Parade i'w glywed ar yr albwm Stay Awake, casgliad o alawon Disney gan artistiaid amrywiol.

Ym 1990, cafodd Sun Ra ei strôc gyntaf. Ar ôl hynny roedd rhaid iddo ddefnyddio cadair olwyn. Nid oedd yn gallu canu mwyach, ond parhaodd i deithio gyda'i Arkestra, gan chwarae organ a synth ac yn arwain y band. Ym 1992, gwnaeth strôc arall wneud yn amhosibl iddo dal wrthi. Bu farw yn 1993.

Yn ystod ei yrfa, recordiodd gannoedd o albymau, llawer ohonynt wedi'u rhyddhau gan labeli recordiau bach ac felly dim ond ar gael mewn rhifynnau bach iawn. Hefyd, cyhoeddodd ei gerddoriaeth yn bennaf ar ei label ei hun Saturn a'i gwerthu trwy archeb bost. Felly arhosodd cerddoriaeth Sun Ra yn anhysbys i'r gynulleidfa fawr, doedd ddim wedi ei weld mewn cyngherddau. Yn y 1990au, cyhoeddwyd llawer o'i recordiadau ar ôl ei farwolaeth ar label recordiau Evidence. Cafodd yr albwm cynnar Strange Strings (1966) ei gynnwys yn rhestr cylchgrawn The Wire o 100 Records That Set the World on Fire (While No One Was Listening) ym 1998.

Cymerodd Sun Ra ran yn y ffilmiau dogfen Cry of Jazz (1959) ac A Joyful Noise (1980) a'r brif ran yn y ffilm Space Is the Place (1972). [8]

Ymddangosodd Sun Ra yng Ngŵyl Jazz Aberhonddu yn 1990.

Rhai o'i recordiau

[golygu | golygu cod]

Recordiodd Sun Ra dros 100 recordiau o 1956 i 1993. Rhyddhawyd rhai ar ei label ei hun, El Saturn, ymhlith llawer o rai eraill, o dan yr enw Sun Ra a'i Arkestra ac amrywiadau niferus (Sun Ra a'i Solar Arkestra, Sun Ra a'i Myth Science Arkestra ac ati).[9]

  • Super-Sonic Jazz (1957)
  • Jazz in Silhouette (1959)
  • Fate in a Pleasant Mood (1965)
  • The Heliocentric Worlds of Sun Ra, Vol. 1 (1966)
  • The Magic City' (1966)
  • Angels and Demons at Play (1967)
  • Interstellar Low Ways' (1967)
  • Cosmic Tones for Mental Therapy (1967)
  • Strange Strings (1967)
  • Atlantis (1969)
  • The Solar-Myth Approach (1971)
  • It’s After the End of the World: Live at the Donaueschingen and Berlin Festivals (1971)
  • Space Is the Place (1973)
  • Astro Black (1973)
  • Some Blues but not the Kind That’s Blue (1977)
  • Disco 3000 (1978)
  • Lanquidity (1978)

Aelodau'r Arkestra

[golygu | golygu cod]

Mae'r rhestr yn cynnwys yr aelodau mwyaf hirsefydlog yr Arkestra, a'r blynyddoedd gyda Sun Ra. [10]

  • Pat Patrick (1954-1988)
  • Marshall Allen
  • Art Hoyle (1956)
  • John Gilmore (1956-1995)
  • Robert Barry (1956-1968)
  • Ronnie Boykins (1956 -1974)
  • Thomas "Bugs" Hunter (1962-1989)
  • Al Evans (1962 -1964, 1976-1989)
  • Robert Cummings (1963 -1970)
  • Walter Miller (1963-1969, 1979-1982)
  • Danny Davis (1963-1987)
  • Ali Hassan (1963-1968)
  • James Jacson (1963-1992)
  • Clifford Jarvis (1963-1976, 1982/1983)
  • Art Jenkins (1964-1971)
  • Teddy Nance (1964-1967)
  • Bernard Pettaway (1964-1968)
  • Lex Humphries (1964 -1973)
  • Nimrod Hunt (= Carl S. Malone, 1966-1971)
  • Jothan Callins (1967, 1975, 1988-1992)
  • Charles Stephens (1967 -1979)
  • Danny Ray Thompson (1967/1968-1992)
  • June Tyson (1968-1992)
  • Kwame Hadi (= Lamont McClamb; 1969-1977)
  • Akh Tal Ebah (= Doug E. Williams; 1969-1977)
  • Atakatune (= Stanley Morgan; 1972 -1992 ;† 2018)
  • Odun (= Cangen Russell; 1972 -1975)
  • Charles Stephens (1973-1979, gyda thoriadau)
  • Dale Williams (1974-1979)
  • Michael Ray (1977-1992)
  • Eddie Gale (1978-1985; * 1941; † 2020)
  • Vincent Chancey (1976-1981)
  • Ahmed Abdullah (1976-1992)
  • Hayes Burnett (1976-1982)
  • Craig Harris (1976-1979)
  • Noel Scott (1979-1998)
  • Luqman Ali (= Edward Skinner; 1977-2003 ;† 2007)
  • Eddie Thomas (= Thomas Thaddeus; 1974-1980)
  • Richard "Radu" Williams (hefyd Radu Ben Judah; 1977 -1981)
  • Jaribu Shahid (1977-1981)
  • Y Samariad nefol (= Eric Walker; 1979-1982)
  • Kenny Williams (1979-1988)
  • Ronnie Brown (1980-1984)
  • Rollo Radford (1982 1989)
  • John Ore (1982-1992)
  • Fred Adams (1982-1991)
  • Bruce Edwards (1984-1992)
  • Harold "Buster" Smith (1986-1992)
  • Elson Nascimento (1987-1992)
  • Clifford Barbaro (1998-1991)

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Dr. Jazz: Birmingham’s jazz giant Sun Ra gets celebrated. JazzWeek, 26 Mai 2012
  2. Silsbee, Kirk (Ebrill 4, 2014). "The light still shines on Sun Ra". LA Times.
  3. Barrett, Gena-mour (Mai 6, 2018). "Afrofuturism: Why black science fiction 'can't be ignored'". BBC
  4. Kemper, Peter: The Sound of Rebellion, 2023, Reclam, ISBN: 978-3-15-011324-0
  5. Kemper, Peter: The Sound of Rebellion, 2023, Reclam, ISBN: 978-3-15-011324-0
  6. Thom Holmes, "Sun Ra & the Minimoog", Bob Moog Foundation, 6 Tachwedd 2013.
  7. https://www.tornlightrecords.com/the-universe-is-in-my-voice-june-tyson-the-afrofuturist-voice-of-the-sun-ra-arkestra/?srsltid=AfmBOorNTj4G5fgYFtmF8_5tOBlVhTRl4qezAl7SmGYPGBQJ7QAcJF6q
  8. https://ubu.com/film/ra_space.html
  9. https://www.allmusic.com/artist/sun-ra-mn0000924232#discography
  10. Andy Beta: Space Is the Place: A Somewhat Comprehensive Guide to Sun Ra’s Cosmic Jazz. Vulture, 6 Hydref 2017