Sul y Tadau

Oddi ar Wicipedia

Dathliad sy'n anrhydeddu tadau ac yn dathlu tadolaeth, perthynasau tadol a dylanwad tadau mewn cymdeithas yw Sul y Tadau. Yng ngwledydd Catholig Ewrop, mae wedi cael ei ddathlu ar 19 Mawrth (Dydd Gŵyl Joseff) ers yr Oesoedd Canol. Y Sbaenwyr a'r Portiwgeaid gyflwynodd y dathliad i America Ladin, lle mae 19 Mawrth yn dal i gael ei ddefnyddio ar ei gyfer, er bod llawer o wledydd yn Ewrop ac America bellach wedi mabwysiadu'r dyddiad sy'n cael ei ddefnyddio ar ei gyfer yn yr Unol Daleithiau, sef trydydd dydd Sul Mehefin. Caiff ei ddathlu ar wahanol ddyddiau mewn sawl rhan o'r byd, gan mwyaf ym misoedd Mawrth, Ebrill a Mehefin. Mae'n cyd-fynd â dathliadau tebyg sy'n anrhydeddu aelodau'r teulu, fel Sul y Mamau, Diwrnod y Brodyr a Chwiorydd a Diwrnod y Teidiau a Neiniau.

Ni chafodd Sul y Tadau ei ddathlu yn yr Unol Daleithiau, y tu allan i draddodiadau Catholig, tan yr 20g. Cafodd ei sefydlu gan Sonora Smart Dodd yn ei ffurf fodern.[1] Ar 19 Mehefin 1910 cynhaliodd ddathliad Sul y Tadau yn yr YMCA yn Spokane, Washington. Roedd ei thad, William Jackson Smart yn gyn-filwr Rhyfel Cartref America ac wedi magu chwech o blant fel yn rhiant sengl. Bu hefyd yn aelod o Hen Eglwys Bresbyteraidd y Canmlwyddiant (bellach yn Eglwys Bresbyteraidd Knox), lle cynigiwyd y syniad gyntaf. Ar ôl clywed pregeth ar Sul y Mamau yn 1909, dywedodd wrth ei gweinidog y dylai tadau gael gwyliau tebyg i'w hanrhydeddu. Er iddi awgrymu 5 Mehefin i ddechrau, sef pen-blwydd ei thad, ni chafodd y gweinidogion ddigon o amser i baratoi eu pregethau, a gohiriwyd y dathliad tan y trydydd dydd Sul ym mis Mehefin. Derbyniodd nifer o glerigwyr lleol y syniad, ac ar 19 Mehefin 1910, cyflwynwyd pregethau yn anrhydeddu tadau ledled y ddinas.[2] Serch hynny, yn 1972 y cafodd y diwrnod ei wneud yn wyliau cenedlaethol swyddogol yn yr Unol Daleithiau.

Yn y Deyrnas Unedig, nid oes gan Sul y Tadau statws swyddogol ond mae'n cael ei ddathlu ar y trydydd dydd Sul o Fehefin. Yn wahanol i Sul y Mamau, sydd â thraddodiad hynafol fel gŵyl eglwysig, mae Sul y Tadau yn ddathliad modern, yn tarddu rywbryd ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Sonora Louise Smart Dodd" (PDF). Spokane Regional Convention & Visitor Bureau. 19 Chwefror 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2016-08-12. Cyrchwyd 22 Awst 2016.
  2. Butler, Joey. "Father's Day has Methodist ties". The United Methodist Church. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-06-10. Cyrchwyd 15 Mehefin 2014. In 1909 in Spokane, Wash., Sonora Smart Dodd listened to a Mother's Day sermon at Central Methodist Episcopal Church. Dodd's own mother had died 11 years earlier, and her father had raised their six children alone. Dodd felt moved to honor her father, and fathers everywhere, with a special day, as well. She proposed her idea to local religious leaders, and it gained wide acceptance. June 19, 1910, was designated as the first Father's Day, and sermons honoring fathers were preached throughout the city.