Sul y Drindod
Gwedd
| Enghraifft o: | gŵyl grefyddol, gŵyl symudol |
|---|---|
| Math | dydd gŵyl Cristnogol |
| Rhagflaenwyd gan | Sulgwyn |
| Enw brodorol | Dominica Trinitatis |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/02dl2c |
Sul y Drindod yw'r dydd Sul cyntaf ar ôl y Sulgwyn yng nghalendr litwrgaidd Cristnogol y Gorllewin, ond yn Yr Eglwys Uniongred Ddwyreiniol fe'i dathlir ar y Sulgwyn ei hun. Mae Sul y Drindod yn dathlu athrawiaeth Gristnogol y Drindod, sef tri Pherson y Duwdod: y Tad, y Mab, a'r Ysbryd Glân.
Mae Sul y Drindod yn cael ei ddathlu yn holl eglwysi litwrgaidd y Gorllewin, gan gynnwys yr Eglwys Gatholig Rufeinig, yr Eglwys Anglicanaidd, yr Eglwys Fethodistaidd a'r Eglwys Bresbyteraidd.