Suidlanders

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
'N Druppel ("y diferyn"), logo'r Suidlanders

Mae'r Suidlanders (Afrikaans am "Deheuwyr" "South Landers") yn fudiad yn Ne Affrica sy'n rhagweld chwyldro neu derfysg a dymchweliad strwythurau wlad ac yn paratoi cynlluniau ar gyfer i'r Afrikaaners ffoi o'r dinasoedd mawrion.[1][2]

Mae'n ystyried ei hun yn fudiad hunan-amddiffyn yn 2006. Arweinir y mudiad gan Gustav Müller.[3]

Athroniaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Gellir ei ystyried fel mudiad 'survivalist' ethnig. Seilir ei heidioleg ar proffwydolaethau y Boer, 'Siener' ("gweledydd", "proffwyd") van Rensburg. (3 Awst 1864 – 11 Mawrth 192)[4][5] Cred nifer i Rensburg broffwydo y byddai llywodraeth Ddu yn cymryd yr awennau yn Ne Affrica ac y bydd y bobl Afrikaaner Gwyn yn diodde'n fawr o dan y llywodraeth yma. Credant hefyd y bydd yna frwydr dynegfennol olaf a bod angen i'r gymuned Gwyn ei chroen baratoi ar ei chyfer.

Cyfiawnhâd Ryngwladol[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r Suidlanders yn dyfynu bod ganddynt hawl yn ôl cyfraith ryngwladol, yn arbennig Protocol I a II (dyddiad, 8 Mehefin 1977) yn ogystal â Confensiwn Genefa (12 Awst 1949) i'w cynlluniau. Mae Protocol I yn ymwneud ag amddifyn dioddefwyr gwrthdaro arfog ryngwladol a Protocol II yn ymwneud ag amddiffyn dioddefwyr gwrthdaro an-ryngwladol. Rhoddir pwyslais ar Erthyglau 60 i 69 o Protocol I (parthau dad-filwrol ac amddiffyn sifil).[3]

Cynllunio[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r mudiad yn ymgymryd mewn ymarferiadau amddiffyn sifil i'w haelodau. Mae'r hyfforddi yn cynnwys; cymorth cyntaf, Training on all aspects of civil defense is provided to members. The training varies from first aid, logisteg, cyfathrebu a rheoli ffoaduriaid (croen-wyn). Maent hefyd yn hysbysu eu haelodau o ddigwyddiadau a phrotestiadau gan baratoi cynlluniau ar gyfer mudo eu haelodau allan o ardaloedd tymhestlog.

Sylw Rynglwadol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafwyd rhan mewn penod o gyfres ddogfen, Dark Tourist ar sianel ffrydio Netflix yn cyfres 1 Pennod 7 20 Gorffennaf 2018 oedd yn cyfweld a dangos gwaith y Suidlanders.[6] Bu hefyd eitem newyddion am y mudiad ar sianel newyddion CNN.[7]

Cafwyd hefyd sylw i'r mudiad gan llefaryddion asgell dde megis Katie Hopkins.

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Staff (25 Oktober 2013). "S. Africa evacuation plan: White Afrikaner group fears genocide upon Mandela’s death". RT. http://rt.com/news/south-africa-genocide-evacuation-702/.
  2. Schneider, Victoria (7 November 2013). "Is the white-right in South Africa a threat?". Al Jazeera. http://www.aljazeera.com/indepth/features/2013/11/white-right-south-africa-threat-201311795044515944.html.
  3. 3.0 3.1 Suidlanders (2015). Suidlanders Manual in English. Freely available upon request navrae@suidlanders.co.za: Suidlanders. p. 13.
  4. WW3: Germans, Boers, Race War, Suidlanders, Simon Roche, Siener Van Rensburg & Adriaan Synman, http://archive.org/details/Ww3GermansBoersSuidlandersSimonRoche1, adalwyd 2018-08-24
  5. Weiner, Sophie. "Trump Thrills White Nationalists With Tweet About South African Farms" (yn en-US). Splinter. https://splinternews.com/trump-thrills-white-supremacists-with-tweet-about-south-1828542149.
  6. https://www.timeslive.co.za/news/south-africa/2018-08-28-netflix-show-features-white-afrikaner-group-preparing-for-revolution/
  7. http://edition.cnn.com/interactive/2018/11/africa/south-africa-suidlanders-intl/