Sufe Bradshaw

Oddi ar Wicipedia
Sufe Bradshaw
Ganwyd30 Tachwedd 1979 Edit this on Wikidata
Chicago Edit this on Wikidata
Man preswylLos Angeles Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, actor teledu, actor ffilm Edit this on Wikidata
Adnabyddus amVeep Edit this on Wikidata

Mae Sufe Bradshaw (ynganir fel Sŵ-ffî; ganwyd 16 Ebrill 1986) yn actores Americanaidd, sy’n fwyaf adnabyddus am ei rôl fel Sue, yr ysgrifenyddes a threfnydd amserlen chwerw i’r Is-Arlywydd Selina Meyer, yn y gyfres gomedi HBO Veep. Cynhwysa’i rolau actio gwadd blaenorol Prison Break, Mind of Mencia, Southland, Cold Case a FlashForward, yn ogystal rôl mân yn y ffilm 2009 Star Trek.

Un o Chicago, Illinois yn wreiddiol, mae Bradshaw hefyd wedio gweithio fel gwneuthurwraig ffilmiau dogfen. Mae ei phrosiect New Leaves, sy’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd, yn ymdrin â phlant a fagir mewn cymdogaethau trefol tlawd neu ddifreintiedig. Mae hefyd wedi perfformio fel bardd geiriau llafar, a gweithia fel dyngarwraig ac actifydd ar gyfer grwpiau megis One Billion Rising a’r Greenway Art Alliance.