Stryi

Oddi ar Wicipedia
Stryi
Murlun ar ochr adeilad gweinyddol yn Stryd Taras Shevchenko, Stryi.
Mathdinas bwysig i'r rhanbarth yn Wcráin, anheddiad dynol Edit this on Wikidata
Poblogaeth59,325, 59,425, 55,100 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2, UTC+03:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Düren, Bălţi, Nowy Sącz, Leszno, Zakopane, Daugavpils, Gradačac, Vegreville, Les Herbiers, Mansfield, Kiskunhalas, Sir Lwówek Śląski Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Wcreineg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLviv Oblast Edit this on Wikidata
GwladBaner Wcráin Wcráin
Arwynebedd16.95 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr296 ±1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau49.25°N 23.85°E Edit this on Wikidata
Cod post82419 Edit this on Wikidata
Map

Dinas yn Wcráin a chanolfan weinyddol Raion Stryi, yn Oblast Lviv, yw Stryi (Wcreineg: Стрий). Saif ar lan orllewinol Afon Stryi, un o lednentydd Afon Dniester, rhyw 71 km i dde Lviv, yng Ngorllewin Wcráin.

Sonir amdani yn gyntaf mewn croniclau o ddiwedd y 14g. Datblygodd yn ganolfan ranbarthol ar y ffordd drwy Fynyddoedd Carpathia o Lviv i Mukachevo, a bu masnach gyda Hwngari yn enwedig o bwysig. Codwyd Castell Stryi yn yr 16g i amddiffyn y dref yn erbyn cyrchoedd o'r dwyrain. Ym 1576, rhoddwyd caniatâd gan Frenin Pwyl i Iddewon ymsefydlu yno. Llosgwyd Stryi sawl gwaith yn yr 17g a'r 18g, gan gynnwys yn ystod Gwrthryfel Khmelnytsky ac o ganlyniad i gyrchoedd gan Datariaid y Crimea.

Yn sgil Rhaniad Cyntaf Pwyl ym 1772, daeth Stryi dan diriogaeth y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd. Yn y 19g, roedd Wcreiniaid, Pwyliaid, ac Iddewon fel ei gilydd yn cyfri am un rhan o dair o'r boblogaeth. Yng nghanol y 19g adeiladwyd rheilffyrdd yn cysylltu Stryi â safleoedd eraill, a ffynnodd y diwydiannau nwy a pheirianneg o ganlyniad.

Gostyngodd poblogaeth y ddinas o 63,500 yn 2001 i 61,500 yn 2005,[1] ac i 59,600 yn 2021.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Stryy. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 20 Mai 2022.