Stryd y Porth Bach, Aberystwyth

Oddi ar Wicipedia
Stryd y Porth Bach
Mathstryd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAberystwyth Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Top Stryd y Porth Bach, Aberystwyth, tuag at Eglwys Mihangel Sant

Un o hen strydoedd Aberystwyth yw Stryd y Porth Bach, neu, weithiau Porth Bach yn unig (Saesneg: Eastgate Street).

Fel awgryma'r enw, safai un o'r pyrth canoloesol i mewn i'r dref ar derfyn y stryd, ge lle mae'r troad i Stryd y Popty heddiw. Rhoddwyd yr enw "Little Darkgate Street" ar y stryd yn Saesneg nes o leiaf 1937[1]. Mae'r enw Saesneg yn awgrymu cyfeiriad y porth.

Nodweddion[golygu | golygu cod]

Gateway Buildings, Aberystwyth
Tu fewn Gateway Buildings, Aberystwyth

Ceir rhai siopau annibynnol ar y stryd a thafarn y Court Royale. Ceir hefyd Stryd y Farchnad ac arni, ar hen safle Sinema'r Palladium, pencadlys Pantyfedwen sydd mewn adeilad mwy cyfoes na'r rhelyw Regency sy'n poblogi gweddill y stryd.

Clwb Dewi Sant[golygu | golygu cod]

Wedi ei lleoli ar 35-37 Stryd y Porth Bach ar ben uchaf y stryd ger y cyffordd gyda Heol y Wig ceir adeilad Clwb Dewi Sant, St David's Club. Sefydlwyd y St David's Club yn 1838 gan symud i'r safle yma yn Hydref 1903. Dinistrwyd tu fewn yr adeilad gan dân yn 1815. Nod gwefan 'Casgliad y Werin' [2] am yr adeiladwaith "The building is a late Georgian 3-storey structure with a bowed Doric porch to number 37 with fluted columns, panelled reveals, reeded doorcase, petal traceried fanlight and 6-panel door. The interior was destroyed by a fire in 1815, but the entrance hall to number 37 retains acanthus brackets to segmental arch leading to a stairwell."

Mae'r had-ddylunio i gynnwys sawl fflat foethus.

Cyrtiau[golygu | golygu cod]

Ceir rhai nodweddion i'r stryd gan gynnwys tri cwrt bychan sy'n estyn oddi arni ac yn cynnwys clwstwr o dai. Eu henwau yw:

  • Tai'r Porth | Gateway Buildings
  • Windmill Court
  • Laurel Place

Oriel[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]