Stormy Daniels

Oddi ar Wicipedia
Stormy Daniels
FfugenwStormy Danielse Edit this on Wikidata
GanwydStephanie Gregory Edit this on Wikidata
17 Mawrth 1979 Edit this on Wikidata
Baton Rouge Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Scotlandville Magnet High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor pornograffig, model, cyfarwyddwr ffilm, sgriptiwr, cynhyrchydd ffilm Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Adam & Eve
  • Digital Playground
  • Hustler Video
  • Sin City
  • Vivid Entertainment
  • Wicked Pictures Edit this on Wikidata
Adnabyddus amFull Disclosure Edit this on Wikidata
Taldra170 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau57 cilogram Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Weriniaethol Edit this on Wikidata
PriodPat Myne, Brendon Miller, Barrett Blade Edit this on Wikidata
Gwobr/auAVN Best New Starlet Award, Gwobr Hall of Fame AVN, Penthouse Pet, Gwobr FAME, Gwobr FAME Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://stormydaniels.rocks/ Edit this on Wikidata

Mae Stephanie Gregory Clifford (ganwyd 17 Mawrth 1979), sy'n adnabyddus wrth ei henw llwyfan Stormy Daniels yn actores a chyfarwyddwr ffilmiau pornograffig Americanaidd a anwyd yn Baton Rouge, Louisiana.[1]

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Daniels ar 17 Mawrth 1979 i Sheila a Bill Gregory, a ysgarodd tua 3 neu 4 blynedd yn ddiweddarach. Magwyd Daniels wedyn gan ei mam.

Mynychodd Ysgol Uwchradd Magnet Scotlandville yn Baton Rouge, gan raddio ym 1997[2]. Ystyriodd fod yn newyddiadurwr.

Yn ôl Daniels magwyd hi mewn "cartref incwm cyfartalog isaf ..." mewn "...cymdogaeth wael iawn"

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Dechreuodd Daniels  strip-bryfocio pan oedd hi'n 17 mlwydd oed. Wedi ymweld â ffrind mewn clwb stripio cafodd hi ei pherswadio i berfformio "set gwestai". Dechreuodd stripio fel gwaith yn y Gold Club yn Baton Rouge, a daeth yn ddiddanwr nodwedd gydag asiantaeth Continental Theatrical ym mis Medi 2000.

Wrth weithio fel diddanwr nodwedd cyfarfu Daniels a Devon Michaels, a oedd wedi ei chastio i wneud golygfeydd lesbiaidd mewn dwy ffilm arfaethedig - y naill i gwmni Wicked Pictures a'r llall ar gyfer cwmni Sin City - gofynnodd Michaels i Daniels mynd gyda hi.

Ym mis Gorffennaf 2002, cafodd Daniels ei phrif ran gyntaf mewn ffilm bornograffig yn y ffilm Heat i gwmni Wicked Pictures. Ym mis Medi yr un flwyddyn llofnododd gontract cyfyngedig i weithio i gwmni Wicked yn unig. Yn 2004, enillodd wobr y seren newydd gorau yng ngwobrau Adult Video News (AVN). Mae hi wedi cyfarwyddo i gwmni Wicked ers 2004.

Cafodd Daniels ei urddo yn aelod o Oriel Enwogion AVN ar 18 Ionawr 2014, ac fe'i cyflwynwyd i Oriel Enwogion XRCO ar 16 Ebrill, 2014. Enillodd ei waith cyfarwyddo'r flwyddyn honno bedwar ar ddeg enwebiad yng Ngwobrau AVN, gan gynnwys enwebiad ar gyfer y Golwg Rhyw Diogel Gorau ar gyfer ei pherfformiad gyda Brendon Miller yn ffilm François Clousot First Crush.

Gwaith prif lif[golygu | golygu cod]

Yn ogystal â pherfformio mewn ffilmiau oedolion mae Daniels wedi ymddangos mewn rhaglenni a ffilmiau prif lif hefyd[3], er, mewn rôl diddanwr rhyw pob tro. Ymddangosodd mewn pennod o Real Sex lle mae'n chware ran cystadleuydd yn y 2001 Miss Nude Great Plains Contest. Yn 2007 ymddangosodd yn y rhaglen teledu Dirt, rhaglen am bapur tabloid, lle mae hi'n chwarae rhan artist strip-bryfocio sy'n trio twyllo chwaraewr pêl-fasged er mwyn i'r papur ei ddal mewn sefyllfa o sgandal rhywiol.  Ymddangosodd yn fideo'r grŵp Maroon 5 i gyd fynd a'u can "Wake Up Call" yn chwarae ran dawnsiwr polyn. Mae'n ymddangos yn y ffilm The 40-Year-Old Virgin, lle mae'r prif gymeriad (Steve Carell) yn ei gwylio hi'n perfformio mewn ffilm i oedolion ac yn breuddwydio amdani. Ymddangosodd yn y ffilm Knocked Up (2007) fel dawnsiwr arffed.

Gwleidyddiaeth[golygu | golygu cod]

Er ei bod wedi cefnogi plaid y Democratiaid ar hyd ei oes ceisiodd Daniels cael cefnogaeth i sefyll fel yr ymgeisydd Gweriniaethol i gynrychioli Louisiana yn etholiadau ar gyfer y Senedd yn 2010[4]. Y rheswm dros newid ei lliwiau oedd bod y Seneddwr Gweriniaethol David Vitter wedi ei gysylltu â chwmni oedd yn darparu gwasanaethau putain a bod corff canolog y blaid wedi talu treuliau ar gyfer codi arian mewn clwb nos "thema caethiwed lesbiaidd" yn Los Angeles. Roedd Daniels yn honni ei fod yn amlwg bod y Gweriniaethwyr yn rhannu ei hagwedd hi tuag at ryddid rhywiol. Tynnodd hi allan o'r ras cyn dydd y bleidlais[5].

Perthynas honedig a Donald Trump[golygu | golygu cod]

Ar 12 Ionawr 2018, bu adroddiad yn y Wall Street Journal yn honni bod Daniels wedi dod i gytundeb gyda chyfreithwyr Donald Trump, mis cyn etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau 2016, i dderbyn $130,000 am beidio â datgelu ei bod wedi cael perthynas rhywiol gyda Trump yn 2006, dim ond blwyddyn ar ôl iddo briodi ei wraig gyfredol, Melania[6]. Etholwyd Trump yn 45 Arlywydd yr Unol Daleithiau. Ar 25 Mawrth 2018, mewn cyfweliad ar y sioe deledu 60 Minutes fe wnaeth hi ddatgelu ei honiadau am gael rhyw gyda'r Arlywydd a dweud bod hi wedi derbyn yr arian i arwyddo cytundeb i gadw'n ddistaw am y berthynas o herwydd bod hi wedi derbyn bygythiadau yn ei herbyn hi a'i phlentyn pe na bai yn ei harwyddo.

Ar 22 Awst 2018 plediodd twrnai personol Trump, Michael Cohen, yn euog i wyth cyfrif troseddol gan gynnwys troseddau yn ymwneud a thorri cyfraith ariannu etholiadol. Cyfaddefodd, ar lw, iddo gael cyfarwyddyd gan Trump i dalu Stormy Daniels, er mwyn iddi gadw'n ddistaw am eu perthynas ar adeg etholiad arlywyddol 2016.[7]

Ffilmyddiaeth (rhannol)[golygu | golygu cod]

Ffilmiau prif lif[golygu | golygu cod]

Ffilmiau pornograffig[golygu | golygu cod]

  • 2000 : Sea Sluts 5
  • 2002 : When The Boyz Are Away The Girlz Will Play 7
  • 2003 : Island Girls
  • 2004 : Lickity Slit
  • 2005 : Revenge of the Dildos
  • 2006 : Da Vagina Code
  • 2007 : Operation: Desert Stormy
  • 2007 : Potty Mouth
  • 2008 : Bound (II)
  • 2009 : Chicks Gone Wild 5
  • 2010 : Sex Lies and Spies
  • 2011 : Happy Endings
  • 2012 : Unfaithful
  • 2013 : Beaver Buffet
  • 2014 : Dickless
  • 2015 : Girls Night
  • 2016 : Girls on Top
  • 2017 : Hot Cherry Pies 11

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Gwefan Swyddogol Stormy Daniels (gwefan i oedolion yn unig) My Bio". Stormy Daniels. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-06-05. Cyrchwyd 06/04/2018. Check date values in: |access-date= (help)
  2. "Stormy Daniels IMDb - Biography". IMDb. Cyrchwyd 06/04/2018. Check date values in: |access-date= (help)
  3. "IMDb Stormy Daniels Filmography". Cyrchwyd 06/04/2018. Check date values in: |access-date= (help)
  4. "Porn star Stormy Daniels considering a run against Sen. David Vitter". NOLA.
  5. "Huffington Post Stormy Daniels NOT Running For Senate in Louisiana: Porn Star Stays Out Of Politics". 06/15/2010. Cyrchwyd 06/04/2018. Check date values in: |access-date=, |date= (help)
  6. Newyddion BBC Why the Stormy Daniels-Donald Trump story matters adalwyd 06/04/2018
  7. The Evening Standard 23 Awst 2018 Donald Trump's ex-lawyer Michael Cohen admits paying ‘hush money to Stormy Daniels': could the US President face charges? adalwyd 25 awst 2018