Storio data

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Cyfrwng biolegol i storio data yw helics dwbwl o RNA

Cofnodi gwybodaeth a'i gadw dros gyfnod o amser yw storio data. Ymhlith yr enghreifftiau o storio data mae: ysgrifennu, DNA ac RNA, recordiad ffonograffig, tâp magnetig a disgiau optegol, y co bach, CD-ROMiau a chodau bar. Mae'r dulliau digidol o storio data, integreiddio data, cloddio data, glanhau data, dadansoddi data a phrosesu data yn ddibynnol ar drydan. Gelwir y math hwn o ddata'n "ddata digidol".

Un o amcanion pwysicaf y cyfrifiadur yw storio data digidol ac un o fanteision storio dogfennau ar ffurf digidol yw eu bod yn cymryd llai o le i'w storio na'r dogfennau papur traddodiadol. Mantais arall yw y gellir gwneud copiau perffaith o'r ddogfen heb fawr o drafferth, ac felly mae diogelwch y wybodaeth yn y ddogfen yn fwy diogel. Gellir cadw copiau o'r ffeil ar weinydd cyfrifiadurol mewn adeilad arall, rhag ofn i'r gweinydd dorri, neu fethu mewn unrhyw fodd. Ond ceir ochr negyddol i wneud mwy nag un copi, sef ei bod yn anos gwarchod y data rhag pobl na ddylent ei weld; oherwydd hyn, mae llywodraethiant data wedi'i ddiffinio drwy ddeddfau.

Recordio llais a llun[golygu | golygu cod y dudalen]

Pan feddwn dalent plentyn
I weld llais a chlywed llun... (Gerallt Lloyd Owen)

Llais[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae recordio yn golygu gwneud copi ffisegol a cheir sawl cyfrwng recordio, gan gynnwys print, ffilm, cyfrwng magnetig a chyfrwng optegol. Recordir y gweladwy a'r clywadwy mewn sawl ffurf: ffôn, radio, teledu a'r rhyngrwyd, yn ogystal a bod mewn llif byw, heb recordiad. Gelwir y rhain yn "gyfryngau digidol". Dyma rai o'r cerrig milltir pwysicaf o ran storio data sain:

Llun[golygu | golygu cod y dudalen]

Cychwynwyd y gallu i storio data gweladwy ganrifoedd wedi'r camera obscura a hynny yn 1816 gan Nicéphore Niépce.[1][2] Y cyfrwng ym oedd papur gyda haen denau o arian clorid (silver chloride) arno, ond gan na fedrai rewi neu gadw'r llun, dros amser tywyllai'n llwyr. Yn y 1820au, yn dilyn llawer o arbrofion gyda bitwmen, roedd y broses o storio'r llun wedi'i berffeithio.[3] Pan fu farw yn 1833, cydio ei nai Louis Daguerre yn yr arbrofion gan eu mireinio ymhellach, ac erbyn 1837 roedd y broses yn cael ei alw'n "daguerreotype" a lansiwyd hon yn fasnachol.

Deilliodd y camerau digidol cyntaf yn 1961 gan y seryddwr Eugene F. Lally o'r Jet Propulsion Laboratory, a welodd gysylltiad rhwng y ffotosensor a'r byd digidol newydd a oedd yn dechrau ymddangos, ond nid oedd y dechnoleg yn ddigon da, er ei syniadau. Ond erbyn Chwefror 1975 roedd y 'Cromemco Cyclops' wedi'i lansio fel "camera i hobïwr"![4]

Erbyn yr 21g, roedd sawl dull ar gyfer cadw'r data, gan gynnwys y canlynol:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Newhall, Beaumont (1982). The History of Photography. New York, New York: The Museum of Modern Art. p. 13. ISBN 0-87070-381-1. Joseph Nicéphore Niépce, of exposure to light. Although the only example of his camera work that remains today appears to have been made in 1826, his letters leave no doubt that he had succeeded in fixing the camera's image a decade earlier. 
  2. Leslie Stroebel and Richard D. Zakia (1993). The Focal encyclopedia of photography (3rd ed.). Focal Press. p. 6. ISBN 978-0-240-51417-8. 
  3. Davenport, Alma (1999). The history of photography: an overview. Albuquerque, NM: University of New Mexico Press. p. 6. ISBN 0-8263-2076-7. 
  4. Benchoff, Brian (17 Ebrill 2016). "Building the First Digital Camera". Hackaday.com. http://hackaday.com/2016/04/17/building-the-first-digital-camera/. Adalwyd 30 Ebrill 2016. "the Cyclops was the first digital camera"