Stop Ecocide International

Oddi ar Wicipedia
Stop Ecocide International
Dechrau/Sefydlu2017 Edit this on Wikidata
SylfaenyddPolly Higgins, Jojo Mehta Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.stopecocide.earth/ Edit this on Wikidata

Mae Stop Ecocide International (Sefydliad Atal Ecoladdiad y Ddaear) a dalfyrir fel Sei, yn sefydliad rhyngwladol sy'n ceisio cydnabod fod ecoladdiad (ecocide) yn drosedd ryngwladol. O dderbyn ei fod, yna caiff arferion dinistriol eu dileu, ac amddiffynir ecosystemau sylfaenol mewn ffyrdd cadarnhaol.[1] Difrod difrifol a achosir gan fodau dynol i'r amgylchedd neu mewn ecosystem yw ecoladdiad, difrod sy'n peryglu bodau byw, a'u goroesiad ar y Ddaear, difrod sy'n yn prysur ddinistrio'r amgylchedd yn llwyr.[2] Mae'r mudiad yn lobio pob sector o gyfreithwyr, diplomyddion a chymdeithas sifil er mwyn i'r cysyniad o ecoladdiad gael ei gydnabod a'i dderbyn fel trosedd ryngwladol. Prif waith y grwp yw codi arian.

Hanes[golygu | golygu cod]

Crëwyd Stop Ecocidio International 2017 gan Polly Higgins (1968-2019), bargyfreithiwr o'r Alban. Jojo Mehta oedd y cyfarwyddwr gweithredol yn 2023. Cyflwynodd Polly ddiffiniad o Ecoladdiad i Gomisiwn Cyfreithiol y Cenhedloedd Unedig yn 2010 gan ddweud bod "Ecoladdiad yn golled, yn ddifrod neu'n ddinistr yn erbyn ecosystemau mewn tiriogaeth benodol, felly mae mwynhad heddychlon y boblogaeth wedi darfod neu'n fach iawn". Cyfeirir at y diffiniad hwn yn yr alwad am greu troseddau ecoladdiad.

Pan dyfodd yr ymgyrch yn un rhyngwladol, yn fwy poblogaidd, trawyd Polly gan ganser a bu'n sâl iawn a methodd a hybu'r ymgyrch a ysbrydolodd ychydig ynghynt. Bu farw ar 21 Ebrill 2019. Dywedir iddi gadw'n bositif i'r diwedd, a bu'n byw i weld sut roedd symudiadau cynyddol o weithredwyr hinsawdd yn galw am y gyfraith eco-laddiad.

SEI yw pencadlys gwaith byd-eang y mudiad, a'r ysbrydoliaeth cynyddol i wneud eco-laddiad yn drosedd ryngwladol. I'r perwyl hwn, maen nhw'n gweithio gyda diplomyddion, gwleidyddion, cyfreithwyr, arweinwyr busnes, NGOs, grwpiau brodorol a chrefyddol, pobl ddylanwadol, arbenigwyr academaidd, mudiadau cymdeithasol ac unigolion. Mae’r prif dîm rhyngwladol wedi’i leoli mewn sawl rhan o’r byd ac yn cael ei reoli o’r DU gan Stop Ecocidio International Ltd.[3]

Amcanion[golygu | golygu cod]

Y prif dair amcan yw:[4]

  1. Cydnabod fod Ecoladdiad yn drosedd ryngwladol, gyda'r gwrandawiad yn Llys Troseddol Rhyngwladol yr Hâg.
  2. Ystyried Ecoladdiad fel trosedd cenedlaethol a rhanbarthol ac arsylwi ar weithrediad effeithiol yr holl ddeddfwriaeth sy'n ei sancsiynu, a'u rheoli.
  3. Perfformio pob cam neu weithred gysylltiedig a all fod yn briodol i gyflawni'r ddau amcan uchod.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. www.stopecocide.earth; adalwyd 26 Ebrill 2023
  2. Panel Arbenigol Annibynnol ar Ddiffiniad Cyfreithiol o Ecoladdiad, Mehefin 2021.
  3. Gwefan swyddogol amlieithog' adalwyd 26 Ebrill 2023.
  4. -ecocide-international -stop -ecocide-foundation/ ecocidelaw.com; adalwyd 26 Ebrill 2023.

Dolennau allanol[golygu | golygu cod]