Steven Bochco

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Steven Bochco

Bochco yn 1994
Ganwyd Steven Ronald Bochco
(1943-12-16)16 Rhagfyr 1943
Dinas Efrog Newydd, U.D.A.
Bu farw 1 Ebrill 2018(2018-04-01) (74 oed)
Los Angeles, Califfornia, U.D.A.
Alma mater Sefydliad Technoleg Carnegie, BFA 1966
Gwaith Cynhyrchydd teledu, awdur
Priod Gabrielle Levin (pr. 1964–69)
Barbara Bosson (pr. 1970–97)
Dayna Kalins (pr. 2000)
Plant 2, yn cynnwys Jesse

Cynhyrchydd ac awdur teledu Americanaidd oedd Steven Ronald Bochco (16 Rhagfyr 19431 Ebrill 2018). Datblygodd nifer o gyfresi teledu adnabyddus yn yr 1980au a'r 1990au, yn cynnwys Hill Street Blues, L.A. Law, Doogie Howser, M.D., ac NYPD Blue.

Cychwynnodd ei yrfa fel awdur ar gyfer nifer o gyfresi drama drosedd ar deledu yn cynnwys Ironside a Columbo. Ei brif swydd gyntaf fel cynhyrchydd oedd ar y gyfres heddlu Paris. Yn 1981, cychwynnodd cyfres o raglenni drama lwyddiannus gan ddechrau gyda Hill Street Blues a pharhaodd hyn am y ddau ddegawd nesaf.

Baner Unol Daleithiau AmericaEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]