Stanisław Wyspiański

Oddi ar Wicipedia
Stanisław Wyspiański
Ffotograff o Stanisław Wyspiański.
GanwydStanisław Wyspiański Edit this on Wikidata
15 Ionawr 1869 Edit this on Wikidata
Kraków Edit this on Wikidata
Bu farw28 Tachwedd 1907 Edit this on Wikidata
Kraków Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGwlad Pwyl, Awstria-Hwngari, Ymerodraeth Rwsia Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Jan Matejko Academy of Fine Arts in Krakow
  • Prifysgol Jagielloński
  • Bartłomiej Nowodworski High School Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd, bardd, pensaer, ysgrifennwr, dramodydd, cyfieithydd, cynllunydd llwyfan Edit this on Wikidata
Adnabyddus amView of the Kościuszko Mound in Kraków, Portrait of the artist's wife with son Staś., Polonia, Rachela, Śpiący Staś, Rapsod. Portret sceniczny Andrzeja Mielewskiego, The Wedding Edit this on Wikidata
Arddulldrama fiction Edit this on Wikidata
MudiadArt Nouveau, Young Poland Edit this on Wikidata
TadFranciszek Wyspiański Edit this on Wikidata
llofnod

Dramodydd, bardd ac arlunydd Pwylaidd oedd Stanisław Wyspiański (15 Ionawr 186928 Tachwedd 1907) sydd yn nodedig am ei gyfraniad at fagu traddodiad theatraidd unigryw i Wlad Pwyl, yn ogystal â'i baentiadau a'i ffenestri gwydr lliw. Yr oedd yn aelod blaenllaw o'r mudiad Pwyl Ifanc (Młoda Polska).

Ganed ef yn Kraków, Teyrnas Galisia a Lodomeria, a oedd dan reolaeth Awstria-Hwngari. Cafodd addysg dda mewn llenyddiaeth glasurol a'r celfyddydau cain. Ym 1890 derbyniodd gymorth ariannol i ymweld â dinasoedd celfyddgar ar draws Gorllewin a Chanolbarth Ewrop, gan gynnwys sawl taith i Baris.[1]

Ym 1897 cyhoeddodd ei waith cyntaf, y ddrama ffantasi Legenda. Mae'r ddwy ddrama Klątwa (1899) a Sędziowie (1907) yn ymwneud â materion cyfoes, wedi eu strwythuro ar fodel trasiedïau Hen Roeg. Tynnai ar hanes Gwlad Pwyl yn ei gerdd Kazimierz Wielki (1900), a enwir ar ôl y Brenin Kazimierz III. Perfformiwyd ei ddrama enwocaf, Wesele, ym 1901, campwaith sy'n defnyddio stori priodas (a ysbrydolwyd gan Lucjan Rydel) i gyflwyno trosiad o hanes y genedl Bwylaidd. Cyhoeddwyd dilyniant i Wesele o'r enw Wyzwolenie, ym 1903.[1]

Fel arlunydd, paentiodd Wyspiański furluniau a dyluniadau ar gyfer ffenestri gwydr lliw a gwisgoedd theatraidd. Fe'i penodwyd yn athro yn Academi'r Celfyddydau Cain yn Kraków ym 1905. Bu farw Stanisław Wyspiański yn Kraków o syffilis yn 38 oed.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Stanisław Wyspiański. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 21 Hydref 2022.