Stan Laurel

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Stan Laurel
Stan in color.jpg
GanwydArthur Stanley Jefferson Edit this on Wikidata
16 Mehefin 1890 Edit this on Wikidata
Ulverston Edit this on Wikidata
Bu farw23 Chwefror 1965 Edit this on Wikidata
Santa Monica Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Kings Priory School
  • Stonelaw High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor llwyfan, sgriptiwr, digrifwr, actor ffilm, perfformiwr stỳnt, cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd ffilm, actor, cyfarwyddwr Edit this on Wikidata
TadArthur J. Jefferson Edit this on Wikidata
PriodLois Neilson, Mae Dahlberg, Ida K. Laurel Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Anrhydeddus yr Academi, Gwobr Cyflawniad Urdd yr Actorion Sgrîn, Seren ar Rhodfa Enwogion Hollywood Edit this on Wikidata
Llofnod
Stan Laurel signature.svg

Actor digrif, dramodydd a chyfarwyddwr ffilm Seisnig oedd Stan Laurel (ganwyd Arthur Stanley Jefferson; 16 Mehefin 189023 Chwefror 1965) ac un hanner o Laurel a Hardy, y ddeuawd a gychwynnodd yn oes ffilmiau mud a barodd 25 mlynedd, o 1927 i 1951. Ymddangosodd gyda'i bartner comedi Oliver Hardy mewn 107 ffilm ffer, ffilm nodwedd a rhannau cameo.

Fe'i ganwyd yn nhref Ulverston, Swydd Gaerhirfryn (bellach yn Cumbria), Lloegr, i deulu theatraidd, a magwyd yn Bishop Auckland, Swydd Durham, wedyn Tynemouth, Northumberland, a Glasgow, yr Alban. Yn Glasgow y cychwynodd ar ei yrfa ar y llwyfan, gan ymddangos mewn pantomeimiau a sgetshis yn y theatr gerdd. Ym 1910 ymunodd â chwmni actorion Fred Karno, ac am gyfnod roedd yn dirprwyo dros Charlie Chaplin. Aeth y cwmni ar daith drwy'r Unol Daleithiau cyn y Rhyfel Byd Cyntaf, ac arhosodd Laurel a Chaplin yno. Parhaodd Laurel i ymddangos ar y llwyfan am ddegawd o leiaf, ond ym 1917 roedd ganddo rôl mewn ffilm fer, Nuts in May. Wedi hynny trodd fwyfwy at weithio mewn ffilmiau, a ffurfiodd ei bartneriaeth hirsefydlog gyda Hardy ym 1927. Ymddeolodd Laurel ar ôl marwolaeth ei bartner ym 1957. Bu farw yn Santa Monica, Califfornia, ym 1965.

Roedd ganddo bedair gwraig, a phriododd un ohonyn nhw ddwywaith.

Stan Laurel tua 1920

Llenyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Fred Lawrence Guiles, Stan: The Life of Stan Laurel (Efrog Newydd, 1980)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]