Stadiwm Tottenham Hotspur
Gwedd
| Enghraifft o: | stadiwm amlbwrpas, stadiwm |
|---|---|
| Lleoliad | Tottenham |
| Perchennog | Tottenham Hotspur F.C. |
![]() | |
| Gweithredwr | Tottenham Hotspur F.C. |
| Gwneuthurwr | Mace |
| Enw brodorol | Tottenham Hotspur Stadium |
| Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
| Rhanbarth | Tottenham |
| Hyd | 105 metr |
| Gwefan | https://www.tottenhamhotspurstadium.com/ |
| Dynodwyr | |
Mae Stadiwm Tottenham Hotspur (Saesneg: Tottenham Hotspur Stadium) yn stadiwm pêl-droed yn Tottenham, Llundain. Dyma gartref clwb yr Uwch Gynghrair Lloegr, Tottenham Hotspur. Fe'i hagorwyd yn 2019 i gymryd lle maes blaenorol y clwb, White Hart Lane, a oedd wedi'i leoli yn yr un lle.
Er ei fod yn cael ei ddefnyddio'n bennaf ar gyfer pêl-droed, fe'i defnyddir hefyd ar gyfer pêl-droed Americanaidd, ar gyfer cyngherddau a digwyddiadau eraill. Y stadiwm yw cartref yr National Football League (NFL) yn y Deyrnas Unedig, a dyma lle mae gemau Llundain yng Nghyfres Ryngwladol yr NFL yn cael eu chwarae.
