Sri Chinmoy
| Sri Chinmoy | |
|---|---|
| Ganwyd | 27 Awst 1931 Ardal Chattogram |
| Bu farw | 11 Hydref 2007 Queens |
| Dinasyddiaeth | India Ffrengig, y Raj Prydeinig |
| Galwedigaeth | bardd, ysgrifennwr, athronydd, arlunydd, cerddor, codwr pwysau, dyngarwr, athro ysbrydol, gwrw, ultramarathon runner |
| Chwaraeon | |
| llofnod | |
Arweinydd ysbrydol o India oedd Chinmoy Kumar Ghose (27 Awst 1931 - 11 Hydref 2007), sy'n fwy adnabyddus fel Sri Chinmoy.[1] Roedd yn awdur, arlunydd, bardd, a cherddor; bu hefyd yn cynnal digwyddiadau cyhoeddus megis cyngherddau a sesiynau myfyrio. Hyrwyddodd weithgareddau athletaidd gan gynnwys rhedeg, nofio a chodi pwysau.
Fe'i ganwyd yn Shakpura yn Ardal Chittagong, Dwyrain Bengal, yn India y Raj Prydeinig (Bangladesh bellach). Yn 12 oed aeth i ashram (cymuned ysbrydol) Sri Aurobindo yn Puducherry, de-ddwyrain India. Treuliodd yr 20 mlynedd dilynol mewn ymarfer ysbrydol, gan gynnwys myfyrdod. Bu hefyd yn astudio Bengaleg a llenyddiaeth Saesneg, cymryd rhan mewn mabolgampau, ac yn gweithio yn niwydiannau cartref yr ashram.
Symudodd Chinmoy i Unol Daleithiau America yn 1964 a sefydlodd ganolfan fyfyrdod yn Queens, Dinas Efrog Newydd. Yn y pen draw roedd ganddo 7,000 o fyfyrwyr mewn 60 o wledydd.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Cerflun Heddwch ar gyfer Tangnefedd y Byd - cerflun o Sri Chinmoy ym Mae Caerdydd
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Sri Chinmoy: Spiritual leader and peace activist", The Independent, 17 Hydref 2007; adalwyd 17 Hydref 2024