Squid Game
| Enghraifft o: | cyfres deledu |
|---|---|
| Crëwr | Hwang Dong-hyeok |
| Gwlad | |
| Dechreuwyd | 17 Medi 2021 |
| Daeth i ben | 27 Mehefin 2025 |
| Genre | cyfres deledu cyffrous, cyfres deledu llawn cyffro, cyfres deledu llawn dirgelwch, cyfres ddrama deledu, ffilm am oroesi |
| Lleoliad cyhoeddi | De Corea |
| Yn cynnwys | Squid Game, cyfres 1, Squid Game, cyfres 2, Squid Game, cyfres 3 |
| Lleoliad y gwaith | De Corea |
| Cyfarwyddwr/wyr | Hwang Dong-hyeok |
| Cynhyrchydd/wyr | Kim Ji-yeon |
| Cwmni cynhyrchu | Siren Pictures |
| Cyfansoddwr | Jung Jae-il |
| Dosbarthydd | Netflix |
| Iaith wreiddiol | Coreeg |
| Sgriptiwr | Hwang Dong-hyeok |
| Dynodwyr | |
Cyfres deledu iasoer, ddystopaidd o Dde Corea yw Squid Game (Coreeg: 오징어 게임, "Gêm Sgwid", neu'n wreiddiol Rownd Chwech, 라운드 식스).[1][2] Crëwyd ac ysgrifennwyd y gyfres gan Hwang Dong-hyuk ar gyfer Netflix.
Mae'r gyfres yn dangos cystadleuaeth yn y dirgel gyda 456 o chwaraewyr yn cymryd rhan, gyda phob un ohonynt yn wynebu anawsterau ariannol, sy'n risgio eu bywydau er mwyn chwarae cyfres o gemau angheuol am y cyfle i ennill gwobr o ₩45.6 biliwn (tua £25 miliwn). Mae enw'r cyfresi yn dod o'r gair Corëeg ojingeo ("môr-lawes"), gêm blant Coreaidd. Lee Jung-jae sy'n arwain y cast.
Creodd Hwang y syniad yn seiliedig ar ei frwydrau ariannol ei hun, yn ogystal â'r gwahaniaethau ariannol o fewn dosbarthiadau cymdeithasol yn Ne Korea a chyfalafiaeth.[3][4] Er iddo ysgrifennu'r stori yn 2009, ni allai Hwang ddod o hyd i gwmni cynhyrchu i ariannu'r syniad nes i Netflix gymryd diddordeb tua 2019 fel rhan o ymgyrch i ehangu eu harlwy rhaglenni tramor.
Rhyddhawyd tymor cyntaf Squid Game ledled y byd ar 17 Medi 2021, a chanmolwyd y gwaith i'r carn. Daeth yn gyfres a wyliwyd fwyaf gan Netflix o fewn dim, a derbyniodd nifer o ganmoliaethau o bwys, gan gynnwys chwe Gwobr Emmy 'Primetime' a gwobr gan y Golden Globe. Dechreuodd cynhyrchu ar gyfer yr ail dymor yng Ngorffennaf 2023, ac fe'i rhyddhawyd ar 26 Rhagfyr 2024. Cafodd y trydydd tymor (yr olaf) ei ffilmio gefn wrth gefn gyda'r ail dymor a disgwylir iddo gael ei ryddhau yn 2025.
Cast
[golygu | golygu cod]- Lee Jung-jae – Seong Gi-hun
- Park Hae-soo – Cho Sang-woo
- Wi Ha-joon – Hwang Jun-ho
- HoYeon Jung – Kang Sae-byeok
- O Yeong-su – Oh Il-nam
- Heo Sung-tae – Jang Deok-su
- Anupam Tripathi – Abdul Ali
- Kim Joo-ryoung – Han Mi-nyeo
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Why is it called the Squid Game?". SK Pop by Sportskeeda. 10 Rhagfyr 2024. Cyrchwyd 28 Rhagfyr 2024.
- ↑ "Saiba porque "Round 6" só tem este nome no Brasil (e no Canadá)". Terra (yn Portiwgaleg). 7 Hydref 2021. Cyrchwyd 28 Rhagfyr 2024.
- ↑ Frater, Patrick (September 24, 2021). "'Squid Game' Director Hwang Dong-hyuk on Netflix's Hit Korean Series and Prospects for a Sequel (EXCLUSIVE)". Variety.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Hydref 2021. Cyrchwyd 7 Hydref 2021.
- ↑ Jefferies, Stuart (October 26, 2021). "Squid Game's creator: 'I'm not that rich. It's not like Netflix paid me a bonus'". The Guardian. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Hydref 2021. Cyrchwyd 26 Hydref 2021.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Squid Game ar wefan Internet Movie Database