SpynjBob Pantsgwâr

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth SpynjBob PantsGwâr (cymeriad))
Jump to navigation Jump to search
SpynjBob Pantsgwâr

SpynjBob Pantsgwâr (Saesneg: SpongeBob SquarePants) yw'r enw Cymraeg ar gyfres deledu animeiddiedig Americanaidd am y cymeriad cartŵn o'r un enw, a'r cwmni cyfryngau sy'n ei chynhyrchu. Mae'n un o "Nicktoons" y cwmni teledu Nickelodeon.

Erbyn heddiw, darlledir SpynjBob ledled y byd. Fe'i crëwyd gan y biolegydd morol ac animeiddiwr Stephen Hillenburg ac fe'i cynhyrchir gan ei gwmni cynhyrchu, United Plankton Pictures. Lleolir y gyfres yn y Cefnfor Tawel yn ninas Pant y Bicini (Saesneg: Bikini Bottom) a'i chyffiniau ar waelod lagŵn. Darlledwyd y bennod beilot yn yr Unol Daleithiau ar Nickelodeon ar 1 Mai 1999, gyda'r gyfres gyntaf swyddogol yn dilyn ar 17 Mehefin yn yr un flwyddyn. Cafwyd sawl cyfres erbyn hyn ynghyd â DVDau a dwy ffilm hir.

Darlledu Cymraeg[golygu | golygu cod y dudalen]

Dechreuodd y gyfres Gymraeg ar S4C ar 7 Medi 2011, ac mae ar gael drwy S4C Clic.

Gwahaniaeth o'r fersiwn Saesneg[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae gan y dyblygu Cymraeg gyfanswm o 4 actor llais: Dewi Rhys Williams, Siân Naomi, Richard Elfyn a Rhys Parry Jones. ac yn ogystal â chael dyblygu Cymraeg, mae S4C hefyd yn dyblygu'r rhan fwyaf o destunau i'r Gymraeg a thrawsnewid swigod gwahanol.

Lleisiau Cymeriad a Chyfieithiadau mewn Cymraeg dyblyg[golygu | golygu cod y dudalen]

Enw Cymraeg Llais Cymreig
SpynjBob Pantsgwâr Dewi Rhys Williams
Boibachbysgod
Sulwyn Surbwch Richard Elfyn
Gwilym Gwellnaphawb
Al-gi
Stanley S. Pantsgwâr
Cenwyn y Cimwch
Padrig Wlyb Rhys Parry Jones
Caradog Cranci
Mr. Môr-forwyn
Paentio'r Môr-leidr
Patchy y Môr-leidr
Tina Tywod Siân Naomi
Karen
Mrs. Pwff
Perl Cranci
Gari
Plant Iestyn Davies, Rhun Moses, Rhydian Davies
Cymraeg Saesneg gwreiddiol
SpynjBob Pantsgwâr SpongeBob SquarePants
Padrig Patrick Star
Sulwyn Surbwch Squidward Tentacles
Mr Cranci Mr Krabs
Al-gi Plankton
Cenwyn Larry the Lobster
Gwilym Gwellnaphawb Squilliam Fancyson
Y Crancdy The Krusty Krab

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Blank television set.svg Eginyn erthygl sydd uchod am deledu. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato