Spirited Away
Spirited Away | |
|---|---|
| Cyfarwyddwr | Hayao Miyazaki |
| Cynhyrchydd | Toshio Suzuki |
| Ysgrifennwr | Hayao Miyazaki |
| Serennu | * Rumi Hiiragi * Miyu Irino * Mari Natsuki * Takeshi Naito * Yasuko Sawaguchi * Tsunehiko Kamijō * Takehiko Ono * Bunta Sugawara |
| Cyfansoddwr y thema | Joe Hisaishi |
| Sinematograffeg | Atsushi Okui |
| Golygydd | Takeshi Seyama |
| Dylunio | |
| Dosbarthydd | Toho (Japan) |
| Amser rhedeg | 125 munud |
| Gwlad | Japan |
| Iaith | Japaneaidd |
| Cyllideb | * ¥1.9 billion * ($15–19 miliwn) |
Mae Spirited Away (neu 'Hed Fy Ysbryd'; Tsieinieg: 千と千尋の神隠し) yn ffilm anime Japaneaidd ffantasïol o 2001 sydd wedi'i hysgrifennu a'i chyfarwyddo gan Hayao Miyazaki a'i chynhyrchu gan Studio Ghibli.[1] Mae'n adrodd stori Chihiro Ogino (Hiiragi), merch weddol sarrug, sy'n treiddio i fyd ysbrydol wrth symyd tŷ. Ar ôl i'w rhieni cael eu trawsffurfio i mewn i foch gan y wrach Yubaba (Natsuki), mae Chihiro yn dechrau gweithio ym maddondy Yubaba, gan geisio dargonfod dull i ryddhau ei hun a'i rhieni a dychwelyd i'r byd dynol.
Ysgrifennodd Miyazaki y script ar ôl iddo benderfynu y byddai'r ffilm yn seiliedig ar ferch 10 mlwydd oed ei ffrind, y cynhyrchydd Seiji Okuda, oedd yn ymweld â'i gartref bob haf. Ar y pryd, roedd Miyazaki yn datblygu dau brosiect personol, ond ni dderbyniwyd arian ar eu cyfer. Gyda chyllideb o $19 miliwn, dechrewyd cynhyrchu Spirited Away yn 2000. Yn ystod y cynhyrchiad, sylweddolodd Miyazaki y byddai'r ffilm dros dair awr o hyd a phenderfynodd dorri nifer o ddarnau o'r stori.
Rhyddhawyd y ffilm yn Japan ar 20 Gorffennaf 2001 gan y dosbarthydd Toho. Daeth i fod y ffilm fwyaf lwyddiannus yn hanes ffilm Japan, gan ddod â refeniw gros o dros $289 miliwn ledled y byd, a derbyn llawer o glod gan feirniaid. Mae Spirited Away yn cael ei gosod yn aml ymhlith rhestrau o'r ffilmiau gorau sydd wedi'u hanimeiddio.[2][3][4] Enillodd wobr Oscar ar gyfer y ffilm orau wedi'i hanimeiddio, yr unig ffilm wedi'i ddylunio â llaw i enill ffilm orau wedi'i hanimeiddio yn y gwobrau.
References[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ "Sen To Chihiro No Kamikakushi". http://www.bcdb.com, 13 Mai 2012
- ↑ "The 50 Best Movies of the Decade (2000–2009)". Paste Magazine. 3 November 2009. Cyrchwyd 14 December 2011.
- ↑ "Film Critics Pick the Best Movies of the Decade". Metacritic. 3 January 2010. Cyrchwyd 4 September 2012.
- ↑ "Top 100 Animation Movies". Rotten Tomatoes. Cyrchwyd 6 May 2013.