Spintria
![]() | |
Enghraifft o: | darn arian tocyn ![]() |
---|---|
Math | tesera ![]() |
Rhan o | nwmismateg ![]() |
![]() |
Darn arian tocyn Rhufeinig, i'w defnyddio mewn puteindai efallai, sy'n portreadu symbolau neu weithredoedd rhywiol yw spintria (Lladin: lluosog, spintriae ).
Defnydd
[golygu | golygu cod]Mae'n bosibl eu bod yn cael eu defnyddio i dalu puteiniaid, a oedd yn aml yn siarad iaith wahanol, am eu gwasanaethau, ond nid oes cytundeb terfynol ar y pwynt. Mae'r rhifau a geir arnynt yn cyfateb i brisiau gosod am wasanaethau puteiniaid yn y Rhufain Hynafol (ymchwil Prifysgol Queensland) ac mae'r delweddau o ryw neu'r organau rhywiol yn ategu'n gryf y tebygolrwydd. Mae ymchwilwyr eraill yn credu eu bod yn docynnau gamblo ac iddynt gael eu cynhyrchu am gyfnod byr yn unig, yn y ganrif 1af OC, efallai.

Nodweddion
[golygu | golygu cod]Darnau o fetel pres neu efydd, heb fod yn fawr, yw'r enghreifftiau sydd ar gael. Ceir amrywiaeth o ddelweddau a symbolau arnynt, i gyd o natur rhywiol neu erotig; dyn a merch yn cael cyfathrach rhywiol neu'n mwynhau gweithredoedd rhywiol eraill, darluniau o'r organ rhywiol gwrywaidd, ac ati.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau a dolenni allanol
[golygu | golygu cod]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Ffeil .pdf hir, Prifysgol Queensland, Awstralia
- (Saesneg) The Collaborative Numismatics Project