Zuberoa

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Soule)
Zuberoa
Mathtalaith Edit this on Wikidata
Poblogaeth15,350 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadGwlad y Basg Edit this on Wikidata
SirPyrénées-Atlantiques Edit this on Wikidata
GwladBaner Gwlad y Basg Gwlad y Basg
Arwynebedd772 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau43.23°N 0.88°W Edit this on Wikidata
Map
Lleoliad Zuberoa yng Ngwlad y Basg

Un o'r tair talaith draddodiadol sy'n ffurfio Iparralde, y rhan o Wlad y Basg sydd yn Ffrainc, yw Zuberoa (Basgeg: Zuberoa, neu Xiberua yn y dafodiaith leol, Ffrangeg: Soule). Saif yn département Pyrénées-Atlantiques. Hi yw'r leiaf o saith talaith Gwlad y Basg; roedd y boblogaeth yn 15,481 yn 1999. Y brifddinas yw Maule-Lextarre.

Ffrangeg yw'r unig iaith swyddogol, er bod 64% o'r boblogaeth yn siarad y dafodiaith leol o Fasgeg, ond ceir rhywfaint o arwyddion dwyieithog. Mae 71% o'r boblogaeth yn eu hystyried ei hunain yn Fasgiaid, yn ganran uchaf yn rhan Ffrengig Gwlad y Basg.

Golygfa yn Irati, Zuberoa