Sorghwm

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Sorgwm)
Sorghwm
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Monocotau
Ddim wedi'i restru: Comelinidau
Urdd: Poales
Teulu: Poaceae
Genws: Sorghum
L.
Rhywogaethau

tua 30, gweler isod

Genws o weiriau (Poaceae) a dyfir fel grawnfwyd neu fel bwyd i anifeiliaid yw sorghwm neu sorgwm. Ceir rhywogaethau yn tyfu'n naturiol ar hyd a lled y trofannau, ond credir bod y rhan fwyaf o'r mathau sy'n cael eu tyfu yn dod o Affrica yn wreiddiol. Lledaenwyd yr arfer o dyfu Sorghwm gan y Mwslimiaid yn y Canol Oesoedd. Ceir cofnodion fod llawer ohono yn cael ei dyfu yn Irac yn y 10g, ac roedd yn cael ei dyfu yn yr Aifft ac yn ddiweddarach yn y rhan Islamig o Sbaen. Oddi yno, lledaenodd i'r rhan Gristionogol o Sbaen, ac erbyn y 12g i Ffrainc.

Rhywogaethau[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am rawnfwyd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.