Somalieg

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Iaith Affro-Asiaidd yn y gangen Gwshitig sy'n tarddu o Gorn Affrica ac yn iaith frodorol y Somaliaid yw Somalieg.[1] Mae'n perthyn i is-gangen yr Iseldiroedd Dwyreiniol yr ieithoedd Cwshitig, ynghyd ag Afar a Saho.

Siaredir Somalieg gan ryw 15 miliwn o bobl yn Nwyrain Affrica, y mwyafrif helaeth ohonynt yn Somaliaid ethnig. Somalieg yw prif iaith ac iaith swyddogol Somalia a Somaliland, un o ieithoedd swyddogol Jibwti, a phrif iaith yr Ardal Somali yn nwyrain Ethiopia a Thalaith y Gogledd Ddwyrain yng Nghenia.

Mabwysiadwyd yr wyddor Ladin i ysgrifennu Somalieg yn y 1970au, ac erbyn heddiw dyma'r wyddor fwyaf gyffredin. Ceir hefyd ffyrdd o ysgrifennu Somalieg yn yr wyddor Arabeg a systemau arbennig a gawsant eu creu yn yr 20g.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1.  Somalieg. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 15 Mai 2018.