Sokkie

Oddi ar Wicipedia
Kurt Darren canwr miwsig Sokkie poblogaidd
Kurt Darren canwr miwsig Sokkie poblogaidd

Math o gerddoriaeth a dawns unigryw i Dde Affrica, ac yn enwedig siaradwyr Affricaneg yw Sokkie. Gall hefyd fod yn amrywiaeth ar ddawnsio 'ballroom'. Credir bod gwreiddiau'r dull o ddawnsio gyda dawnsfeydd y Vortrekkers yn 19g, ond mae'n fersiwn syml o ddawnsio set Ewropeaidd. Dawnsir yn aml i gerddoriaeth Boeremuziek traddodiadol.

Dawnsio Sokkie[golygu | golygu cod]

Arddull o ddawnsio cymdeithasol gyda phartner yw Sokkie.

Cyfeirir ato hefyd yn Affricaans fel langarm, sakkie-sakkie, kotteljons a Water-pomp.

Yn yr un modd ag y mae'r term Americanaidd 'Sock Hop', yn cyfeirio at sannau, mae sokkie, hefyd yn golygu 'sannau' yn Affricaneg, gan gyfeirio ar y ffordd bydd mae pobl ifanc yn dawnsio sokkie yn eu sannau gan ddiosg ei hesgidiau ac yn aml yn droed-noeth. Bydd dawnswyr Sokkie mewn clybiau nos gan amlaf yn gwisgo esgidiau yn bennaf ac yn gwisgo dillad smart ond cyfforddus.[1] Bydd rhai yn gweld dawnsio sokkie yn cynnwys gormod o gyffwrdd cyrff ac yn chwyslyd, efallai bydd yn edrych ychydig yn ddawnsio braidd yn hen ffasiwn neu ffurfiol i Gymry cyfoes.

Mae dawnsio sokkie yn gallu cynnwys amryw o wahanol arddul dawnsio gan gynnwys 'loopdans', 'two step', swing, boogie, foxtrot, camau quickstep.[2] Hefyd, mae cynnwys boerewals sef 'walz ffarmwyr', sef yr enw lleol ar waltz Fienna.[3]

Ceir Sokkie ei ddawnsio nid yn unig i gerddoriaeth sokkie, ond gellir ei dawnsio i lawer o genres cerddoriaeth, er enghraifft hip-hop, trance, country and pop.[2][4]

Cerddoriaeth Sokkie[golygu | golygu cod]

Ymddangosodd arddull arbennig o gerddoriaeth sokkie masnachol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Enghreifftiau o artistiaid yw Kurt Darren[5], Nicholis Louw, a Juanita du Plessis, ymhlith llawer o bobl eraill.

Un hoff ddull o sokkie sy'n creu cerddoriaeth neu ganeuon yw cymryd caneuon Saesneg llwyddiannus a'u cyfieithu i Afrikaans. Neu addasu alaw cân lwyddiannus arall ar gyfer eu cân.

Roedd Nicholis Louw hyd yn oed yn defnyddio'r Blue Horizon ringtone o ffôn Sony Ericsson ar gyfer alaw ei gân - Rock Daai Lyfie. Gellid cynnwys caneuon Saesneg eraill fel y gallai pobl ddawnsio un solo hefyd.

Cerddoriaeth De Affrica, Gweler Hefyd[golygu | golygu cod]

Dolenni[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. [1]
  2. 2.0 2.1 "What is a Sokkie - The Braai (BBQ) and Potjie Way of Life". Sites.google.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-10-22. Cyrchwyd 26 May 2018.
  3. "Archived copy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-10-09. Cyrchwyd 2010-06-17. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)CS1 maint: archived copy as title (link)
  4. "Archived copy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-05-09. Cyrchwyd 2010-06-17. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)CS1 maint: archived copy as title (link)
  5. https://www.youtube.com/watch?v=2ncbD_VhnPo