Soar y Mynydd

Oddi ar Wicipedia
Soar y Mynydd
Matheglwys, capel Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadLlanddewi Brefi Edit this on Wikidata
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr301.3 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.1644°N 3.7781°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN78475328 Edit this on Wikidata
Cod postSY25 6NP Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II* Edit this on Wikidata
Manylion
Capel Soar y Mynydd
Capel Soar y Mynydd o'r pellter

Capel yng Ngheredigion yw Soar y Mynydd. Mae'n gorwedd ym mryniau Elenydd ar lan afon Camddwr ger Llyn Brianne, ar ffordd wledig sy'n rhedeg dros y bryniau o bentref Tregaron tua 8 milltir i'r gorllewin. Mae'n sefyll ym mhlwyf eglwysig Llanddewi Brefi.

Sefydlwyd achos Soar y Mynydd gan y Methodistiaid Calfinaidd yn 1747 a chodwyd y capel yn 1828.[1] Bu ganddo ran amlwg yn hanes Anghydffurfiaeth yn y rhan yma o Gymru.

Yr enw[golygu | golygu cod]

Mae Soar yn enw capel cyffredin yng Nghymru sy'n deillio o'r hanes yn Genesis 19: 20-30 am y lle a wasanaethodd fel noddfa i Lot a'i ferched ac a arbedwyd gan Dduw pan ddinistriwyd dinasoedd Sodom a Gomora.

Lleoliad[golygu | golygu cod]

Mae capel Soar wedi ei adeiladu ar lechwedd y mynydd, uwchlaw'r afon Camddwr ym mryniau Elenydd, ger pwynt dwyreiniol pellaf Ceredigion. Mae tua wyth milltir i'r de-ddwyrain o Dregaron ar y ffordd i Lyn Brianne. Pentrefannau Nant Llwyd a'r Brithdir yw'r lleoedd agosaf. Er bod y capel yn ymddangos, bellach, fel un sydd wedi ei leoli mewn lle gwyllt ac unig, roedd ei safle yn arfer bod yn groesffordd amlwg ar y ffyrdd cefn gwlad a defnyddid cyn adeiladu'r ffyrdd mawr bresennol i dramwyo de Ceredigion a gogledd Sir Gaerfyrddin. Gan ei fod yn groesfan, bu nifer o fawrion Anghydffurfiaeth yn pregethu yn y cyffiniau gan gynnwys Daniel Rowland a Howell Harris. Trwy wasanaeth yr offeiriaid Methodistaidd daeth nifer o amaethwyr ffermydd gwasgaredig yr ardal yn ffyddlon i'r achos, a phenderfynwyd adeiladu capel mewn lle cyfleus iddynt gasglu at ei gilydd i gyd addoli.[2]

Hanes[golygu | golygu cod]

Rhoddwyd cychwyn ar adeiladu'r y capel ym 1822, bron yn syth ar ôl i'r Methodistiaid Calfinaidd torri eu cysylltiad ag Eglwys Loegr. Y prif symudwr oedd y Parch. Ebenezer Richard, gweinidog yn Nhregaron a thad y gwleidydd ac ymgyrchydd heddwch Henry Richard. Darparwyd y tir gan John Jones, tirfeddiannwr Nant Llwyd. Roedd teulu John Jones yn un cefnog oedd wedi bod yn gefnogol i Fethodistiaeth ers yn gynnar yn y 18g. Disgynnydd i John Jones oedd y Parchedig Dr Martin Lloyd-Jones, un o weinidogion mwyaf dylanwadol y mudiad Efengylaidd yng ngwledydd Prydain yn yr 20g.[3]

Bu'r capel yn gwasanaethu pobl y ffermydd defaid am sawl milltir o gwmpas. Roedd yr addolwyr a'r pregethwyr yn dod i'r oedfa ar gefn ceffyl, gan hynny bu stablau ar gyfer y ceffylau yng nghlwm a'r capel. Yn ôl cyfrifiad llefydd o addoliad 1851 roedd 50 o addolwyr yn bresennol yn yr oedfa ar ddydd y cyfrif (30 Mawrth) gyda chyfartaledd o 100 yn mynychu'r oedfaon dros y flwyddyn flaenorol.[3] Oherwydd diboblogi cefn gwlad roedd y gynulleidfa wedi cwympo i ddim ond 2 erbyn 1968 ac roedd perygl y byddai'r capel yn cau ond bu ymgyrch i'w cadw ar agor o herwydd ei hynodrwydd yn llwyddiannus.

Bellach cynhelir oedfaon yn y capel rhwng mis Mai a Mis Hydref, gyda theithiau yn cael eu trefnu o gapeli eraill i addoli yno. Mae'r capel hefyd wedi denu sylw artistig; fe'i paentiwyd gan Ogwyn Davies ym 1993, ac mae wedi ymddangos mewn cerddi gan Harri Webb ac Iwan Llwyd

Pensaernïaeth[golygu | golygu cod]

Mae Soar y Mynydd yn adeilad syml wedi'i wneud o gerrig rwbel lleol a gasglwyd o wely'r afon ac adfeilion ffermydd yn yr ardal. Mae wedi'i wyngalchu ar y tu allan. Mae'n cynnwys capel ffasâd hirsgwar yn y pen gogleddol, wedi'i gysylltu â thŷ deulawr gyda dau gorn simnai ar y grib, o dan do llechi sengl; mae'r tŷ bellach yn wag. Ceir mynediad i'r capel ar yr ochr ddwyreiniol trwy ddau bâr o ddrysau, ac mae'r pulpud wedi'i leoli rhwng y ddau ddrws. Nodwedd amlwg yw'r sgrôl wedi'i phaentio uwchben y pulpud gyda'r testun “Duw cariad yw”, (Epistol Cyntaf Ioan 4: 8 a 4:16), yn dyddio o 1911. Cyfarfu'r ysgol leol yn nhŷ'r capel tan y 1940au. Mae buarth y capel wedi'i orchuddio â cherrig ac mae coed aeddfed yn ei orchuddio. Ar ochr ddwyreiniol yr adeilad mae mynwent. Mae'r capel yn Adeilad rhestredig gradd II* [4]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Richards, E. E. (Lynne), "Soar y Mynydd", Cardiganshire Family History Society journal, cyf. 3/9 (Hydref 2004)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Genuki
  2. Cylchgronau Cymru - Cymru Cyfrol 42, 1912. Soar y Mynydd adalwyd 26 Awst 2019
  3. 3.0 3.1 D. Huw Owen, Capeli Cymru (Talybont: Y Lolfa, 2005), t. 178
  4. "Capel Soar and attached house, Llanddewi Brefi (Llanddewibrefi), Ceredigion". britishlistedbuildings.co.uk. Cyrchwyd 2019-08-25.

Dolen allanol[golygu | golygu cod]