Sławomir Mrożek

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Slawomir Mrozek)
Sławomir Mrożek
Ganwyd29 Mehefin 1930, 26 Mehefin 1930 Edit this on Wikidata
Borzęcin, Lesser Poland Voivodeship Edit this on Wikidata
Bu farw15 Awst 2013 Edit this on Wikidata
Nice Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGwlad Pwyl, Ffrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Bartłomiej Nowodworski High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, dramodydd, dyddiadurwr, newyddiadurwr, awdur ffuglen wyddonol, arlunydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amEdek, The Émigrés Edit this on Wikidata
Arddulldrama, rhyddiaith, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPolish United Workers' Party Edit this on Wikidata
PriodMaria Obremba Edit this on Wikidata
Gwobr/auChevalier de la Légion d'Honneur, Medal Aur Diwylliant Meritorious o Gloria Artis, Gwobr Samuel-Bogumil-Linde, Gwobr Kościelski, Cadlywydd gyda Seren Urdd Polonia Restituta, Uwch Groes Urdd Polonia Restituta, Gwobr Franz-Kafka, Gwobr Gwladwriaeth Awstria ar gyfer Llenyddiaeth Ewropeaidd, Doctor honoris causa o Brifysgol Jagiellonian, Krakow, Order Ecce Homo Edit this on Wikidata
llofnod

Dramodydd, newyddiadurwr, a chartwnydd dychanol Pwylaidd oedd Sławomir Mrożek (29 Mehefin 193015 Awst 2013) sydd yn nodedig am ei barodïau cynnil ac iaith arddulliedig. Defnyddiodd ddychan a damhegion brathog ac abswrdiaeth i ladd ar y drefn gomiwnyddol a thotalitariaeth yng Ngweriniaeth Pobl Gwlad Pwyl.

Bywyd cynnar (1930–57)[golygu | golygu cod]

Ganed Sławomir Mrożek ar 29 Mehefin 1930 ym mhentref Borzęcin, ger Kraków, yn ne-orllewin Gweriniaeth Gwlad Pwyl. Postfeistr oedd ei dad, a ymunodd â'r fyddin yn sgil goresgyniad Gwlad Pwyl gan yr Almaen Natsïaidd ym Medi 1939.

Astudiodd gelf a phensaernïaeth yn Kraków.[1] Cyfrannodd erthyglau a chartwnau dychanol at bapurau newydd a chylchgronau, a nodweddir ei lên ddigrif gan sefyllfaoedd grotésg a chwarae ar eiriau.

Gyrfa lenyddol gynnar (1957–63)[golygu | golygu cod]

Ym 1957 cyhoeddodd Mrożek gyfrol o straeon byrion o'r enw Słoń ("Yr Eliffant").

Cynhyrchwyd ei ddrama gyntaf Policja ("Yr Heddlu") yn Warsaw ym 1958. Ymhlith ei ddramâu eraill o'r cyfnod hwn mae Męczeństwo Piotra Oheya ("Merthyrdod Piotra Oheya"; 1959), Na pełnym morzu ("Ar y Môr"; 1961), Karol (1962), Zabawa ("Hwyl"; 1963), a Czarowna noc ("Noson Swynol"; 1963).

Alltudiaeth (1963–96)[golygu | golygu cod]

Er mwyn osgoi sensoriaeth gan y llywodraeth, gadawodd Mrożek Wlad Pwyl ym 1963 a symudodd i'r Eidal am gyfnod cyn iddo ymsefydlu ym Mharis. Cynhyrchwyd ei ddramâu yng Ngwlad Pwyl wrth iddo ysgrifennu yn alltud yn Ffrainc. Cynhyrchwyd ei ddrama enwocaf, Tango, am y tro cyntaf yn Warsaw ym 1964. Fe'i cyfieithwyd i sawl iaith arall er mwyn ei pherfformio ar draws y byd, gan gynnwys gan Gwmni Brenhinol Shakespeare yn Llindain ym 1966 ac yn y Pocket Theater yn Efrog Newydd ym 1969.[1]

Ym 1968, cyhoeddwyd llythyr agored gan Mrożek mewn papurau newydd ar draws Gorllewin Ewrop yn condemnio ymyrraeth gan luoedd Cytundeb Warsaw yn Tsiecoslofacia, gan roi diwedd ar Wanwyn Prag. O'r herwydd, dirymwyd ei basbort gan lywodraeth Gwlad Pwyl. Gwaharddwyd cynyrchiadau o'i ddramâu yng Ngwlad Pwyl a chafwyd gwared â'i waith o lyfrgelloedd a siopau llyfrau.[1]

Parhaodd Mrożek i ysgrifennu dramâu yn y Bwyleg, ond oherwydd y gwaharddiad ar ei waith yn ei famwlad cawsant eu perfformio yn aml am y tro cyntaf trwy gyfrwng yr iaith Saesneg. Er enghraifft, cynhyrchwyd Vatzlav yng Ngŵyl Stratford, Ontario, ym 1970, Emigranci yn Academi Gerdd Brooklyn ym 1979, ac Alfa yng Nghanolfan Theatr Los Angeles ym 1986.[1]

Derbyniodd ddinasyddiaeth Ffrengig ym 1978. Symudodd i Fecsico ym 1989.[2]

Dychweliad i Wlad Pwyl (1996–2008)[golygu | golygu cod]

Symudodd Mrożek yn ôl i Wlad Pwyl ym 1996.[2]

Diwedd ei oes (2008–13)[golygu | golygu cod]

Dychwelodd Mrożek i Ffrainc yn 2008.[2]

Bu farw Sławomir Mrożek ar 15 Awst 2013 yn ei gartref yn Nice yn 83 oed.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 (Saesneg) Margalit Fox, "Slawomir Mrozek, Leading Polish Playwright, Dies at 83", The New York Times (28 Awst 2013). Adalwyd ar 27 Tachwedd 2020.
  2. 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) Sławomir Mrożek. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 27 Tachwedd 2020.