Ynys Sgogwm

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Skokholm)
Jump to navigation Jump to search
Ynys Sgogwm o arfordir Penfro

Ynys anghyfannedd oddi ar arfordir de-orllewin Sir Benfro yw Ynys Sgogwm[1] (Hen Norseg Skokholm o skok 'coed' a holm 'ynys isel': Saesneg Skokholm), sy'n gorwedd i'r de o Ynys Skomer. Ei arwynebedd yw tua 1 filltir sgwâr.

Disgrifiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r ynys yn enwog am ei chlogwyni Hen Dywodfaen Coch sy'n gartref i nifer o adar môr. Gellir hwylio i'r ynys ar gychod o Martin's Haven ar y tir mawr, ond rhaid cael caniatâd ymlaen llaw gan Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru i lanio arni. Ynghyd ag Ynys Sgomer, mae'r cyfan yn warchodfa natur a'r môr oddi amgylch yn warchodfa môr.

Daeth yr ynys yn adnabyddus y tu allan i Gymru diolch i waith R. M. Lockley, ornitholegwr blaenllaw, a astudiodd adar yr ynys lle bu fyw am flynyddoedd lawer, gan gyhoeddi sawl llyfr ac erthygl amdani. Yn ogystal â'r nifer fawr o adar môr sy'n bridio yno mae hefyd yn safle da i adar mudol sydd weithiau'n denu adar prin iawn.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Ystyr Sgogwm neu Skokholm yw "ynys goediog". Rhoddwyd ei henw iddi gan y Llychlynwyr a mordeithiau i foroedd de-orllewin Cymru ar ddechrau'r Oesoedd Canol gan adael enwau Norseg ar sawl ynys a llecyn arfordirol arall yn yr ardal. Mae'r enw'n gyffelyb ei ystyr i Stockholm, prifddinas Sweden.

Prynwyd yr ynys am £300 yn 1646 gan gyfreithiwr o'r enw William Philipps, ac arhosodd yn y teulu am 360 o flynyddoedd hyd farwolaeth ei ddisgynnydd olaf Mrs Osra Lloyd-Philipps (1920 - 24 Mawrth, 2005), perchennog Castell Dale. Gwerthwyd yr ynys i'r ymddiriedolaethau natur oedd yn gofalu amdani yn Ebrill 2006, diolch i roddion sylweddol gan aelodau o'r cyhoedd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Mae Sgogwm yn ymddangos yng Ngeiriadur yr Academi

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]