Siôn Dafydd Rhys
Siôn Dafydd Rhys | |
---|---|
Ganwyd | c. 1534 Llanfaethlu |
Bu farw | c. 1620 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | meddyg, gramadegydd |
- Erthygl am yr ysgolhaig yw hon. Gweler hefyd John Davies.
Hynafiaethydd, ysgolhaig a meddyg o Gymro oedd Siôn Dafydd Rhys neu John Davies (1534 - tua 1619). Roedd yn nai i'r Esgob Richard Davies. Mae'n un o'r ysgolheigion mwyaf diddorol yng nghyfnod y Dadeni yng Nghymru. Er nad yw'n cael ei gyfrif fel ysgolhaig gorau'r cyfnod, ystyrir ei Gymraeg yn "gampus".[1] Fe'i cofir yn bennaf fel awdur y gyfrol Cambrobrytannicae Cymraecaeve Linguae Institutiones et Rudimenta.
Bywgraffiad[golygu | golygu cod]
Ganed Siôn Dafydd Rhys ym mhlwyf Llanfaethlu, Ynys Môn, ym 1534. Cafodd ei addysg brifysgol yn Eglwys Crist, Rhydychen ac ar y cyfandir lle enillodd gradd Meistr Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Siena yn yr Eidal ym 1567.
Ar ôl dychwelyd i Gymru fe'i apwyntiwyd yn brifathro Ysgol Friars, Bangor. Yn ddiweddarach gweithiodd fel meddyg yng Nghaerdydd a Brycheiniog, lle ymsefydlodd yn ardal Cwm Llwch.
Cynorthwyodd yn y gwaith o gyfieithu rhan o'r Beibl i'r Gymraeg, ond ar ôl cyfnod byr fel Protestant dychwelodd i ffydd yr Eglwys Gatholig.
Gwaith llenyddol[golygu | golygu cod]
Cyhoeddodd sawl llyfr yn cynnwys llyfrau gramadeg ac ieithyddol yn Lladin ac Eidaleg, a gyhoeddwyd yn yr Eidal. Ond ei lyfr pwysicaf a mwyaf dylanwadol oedd ei Cambrobrytannicae Cymraecaeve Linguae Institutiones et Rudimenta (1592), sy'n ymdrîn â gramadeg Cymraeg a rheolau Cerdd Dafod: arhosodd y gyfrol yn llawlyfr bwysig ar y pwnc olaf am gyfnod hir ac roedd Goronwy Owen ymhlith y rhai a fu'n ddyledus iddi am eu gwybodaeth o reolau'r canu caeth. Mae'n llyfr pwysig hefyd am iddo gyflwyno yn y Lladin, iaith ddeallusol ryngwladol y cyfnod, ran o gyfoeth y Traddodiad Barddol Cymraeg.
Un o'i ddiddordebau mawr oedd llên gwerin Cymru. Casglodd draddodiadau am gewri Cymru fel Idris Gawr a Rhita Gawr ar gyfer ei draethawd 'Olion Cewri'. Ysgrifennodd draethawd ar hanes cynnar Prydain hefyd, er mwyn ceisio amddiffyn ffug hanes Sieffre o Fynwy.
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]
- Siôn Dafydd Rhys, Cambrobrytannicae Cymraecaeve Linguae Institutiones et Rudimenta (1592). Ceir y rhagymadrodd yn Rhagymadroddion 1547-1659, gol. Garfield H. Hughes (Caerdydd, 1951).
- Siôn Dafydd Rhys, 'Llythyr at y Beirdd', yn Rhyddiaith Gymraeg... 1488-1609, gol. T. H. Parry-Williams (Caerdydd, 1954)
- Siôn Dafydd Rhys, 'Olion Cewri', yn Rhyddiaith Gymraeg... 1488-1609, gol. T. H. Parry-Williams (Caerdydd, 1954)
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Thomas Parry, Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900 (Gwasg Prifysgol Cymru, 1944).
- Cymry'r 16eg ganrif
- Genedigaethau 1534
- Gramadegwyr Cymraeg
- Hynafiaethwyr Cymreig
- Llanfaethlu
- Llenorion Cymraeg y Dadeni
- Llenorion Eidaleg y Dadeni
- Llenorion Lladin y Dadeni
- Llên gwerin Cymru
- Llenorion Cymreig yn yr iaith Eidaleg
- Llenorion Cymreig yr 16eg ganrif
- Marwolaethau'r 1610au
- Meddygon Cymreig
- Pobl o Ynys Môn
- Ysgolheigion Cymreig yn yr iaith Gymraeg
- Ysgolheigion Cymreig yn yr iaith Ladin