Sir Fynwy

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 01:37, 23 Mai 2016 gan BOT-Twm Crys (sgwrs | cyfraniadau)
Sir Fynwy bresennol
Sir Fynwy cyn 1974

Sir yn ne-ddwyrain Cymru yw Sir Fynwy (Saesneg: Monmouthshire) a grewyd wrth ad-drefnu llywodraeth leol yn 1996. Roedd yr hen Sir Fynwy yn un o'r tair sir ar ddeg yng Nghymru a ddilëwyd gan adrefnu llywodraeth leol yn 1974. Rhwng 1974 a 1996 bu'r ardal yn rhan o sir Gwent. Trefynwy, ar Afon Mynwy, yw prif dref a chanolfan weinyddol y sir. Mae'r sir yn cynrychioli pen deheuol Cymru yn yr hen ddywediad "O Fôn i Fynwy" (h.y. 'Cymru benbaladr'). Llywodraethir y sir gan Gyngor Sir Fynwy, sydd å'i bencadlys yn nhref Brynbuga.

Hanes

Yn yr Oesoedd Canol Cynnar bu'r diriogaeth yn rhan o deyrnas Gwent. O 1069 ymlaen syrthiodd rhan helaeth yr ardal i ddwylo'r Normaniaid a daeth yn rhan o dir Y Mers, er bod rhannau o'r ucheldir yn dal yn nwylo arglwyddi Cymreig lleol.

Crëwyd yr hen Sir Fynwy yn y flwyddyn 1542 allan o'r hen arglwyddiaethau yn yr ardal. Roedd yn cynnwys Casnewydd ac yn ffinio â Swydd Gaerloyw i'r dwyrain, Swydd Henffordd i'r gogledd-ddwyrain, Sir Frycheiniog i'r gogledd a Morgannwg i'r gorllewin.

Daeth yn rhan o sir Gwent yn 1974. Ffurfwyd y sir newydd yn 1996.

Oriel

Daearyddiaeth

Trefi a phrif bentrefi

Cestyll


Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Fynwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato