Sioned Mair
| Sioned Mair | |
|---|---|
| Ganwyd | Sioned Mair Evans 1958 Trelawnyd |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | canwr, actor, cyflwynydd |
| Priod | Russell Isaac |
Actores, cyflwynydd a chantores Gymraeg o Drelawnyd,[1] Dyffryn Clwyd, yw Sioned Mair neu Sioned Mair Evans (ganwyd 1958)[2] a fu'n aelod o'r grŵp Sidan gyda Caryl Parry Jones tra'n ddisgybl yn Ysgol Glan Clwyd.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Derbyniodd ei haddysg yn Ysgol Glan Clwyd a Phrifysgol Cymru, Bangor.[3]
Cychwynodd ei gyrfa fel actores gyda Chwmni Theatr Cymru cyn ymddangos mewn nifer o raglenni plant ar BBC Cymru ac yn ddiweddarach ar S4C megis Pili Pala (1975–1983),[4] Mae Gen i Stori (1976–1978) a Ffalabalam.
Bu hefyd yn portreadu nifer o gymeriadau mewn cyfresi drama poblogaidd fel A55 ac Y Graith, a chyflwyno rhaglenni byw o'r Eisteddfodau a Gwyliau yng Nghymru, gan gynnwys y gyfres Helfa Drysor a olygai iddi hedfan o gwmpas Cymru mewn hofrennydd tra'n chwilio am gliwiau.
Ym 1985, bu'n rhan o'r criw a recordiodd y gân "Dwylo Dros y Môr" a rhyddhaodd gasèt o gerddoriaeth ymarfer corff Caneuon Symud a Chân gyda Sain ym 1989.
Bu hefyd yn "swog" yng Ngwersyll yr Urdd, Llangrannog.[3]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Mae'n briod â'r cyflwynydd a'r newyddiadurwr Russell Isaac[5] ac mae ganddynt dri o blant, Morgan, Lewis a Nel.[6]
Bu farw ei brawd, Griff Evans mewn damwain car yn 2001, tra'n gweithio fel Rheolwr Llawr ar nifer o gyfresi poblogaidd ITV fel Who Wants to Be a Millionaire? a The Weakest Link i'r BBC.[5]
Gwaith ddethol
[golygu | golygu cod]Theatr
[golygu | golygu cod]- Nia Ben Aur (1974)
- Eli Babi (1978)
- Ar Hyd y Nos (1978)
- Mwstwr yn y Clwstwr (1979)
- Esther (1979)
- Hywel A (1981)
- Newid Aelwyd (1987)
- Wastad ar y Tu Fas (1986)
Teledu a Ffilm
[golygu | golygu cod](fel actores neu gyflwynydd)
- Pili Pala (1975–1983)[4] - cyflwynydd
- Mae Gen i Stori (1976–1978) - cyflwynydd
- Ffalabalam - cyflwynydd
- Y Gosb (1983)
- Galw Gari (1984)
- Helfa Drysor (1985) - cyflwynydd
- Râs Sgwar (1985) - cyflwynydd
- Screen Two (1987)
- Going Home (1987)
- Plu Chwithig (1987)
- O.M (1990)
- Llywio (1990) - cyflwynydd
- Eisteddfod yr Urdd (1991) - cyflwynydd
- Anifeiliaid Aruthrol (1993) - cyflwynydd
- A55 (1994 – 1998)
- Y Sioe Fawr (1996) - cyflwynydd
- Oliver's Travels (1995)
- Departures (1998)
- Y Graith (1999)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Following in Anneka's footsteps". Liverpool Echo. 17 Awst 1985.
- ↑ "Sioned in tight film schedule". Abergele and Pensarn Visitor. 5 Mawrth 1987.
- 1 2 "Swogs adnabyddus Llangrannog yn cofio'r dyddiau da". BBC Cymru Fyw. 11 Hydref 2018. Cyrchwyd 18 Medi 2026.
- 1 2 "Sioned Mair". IMDb. Cyrchwyd 18 Medi 2026.
- 1 2 Herdman, Chris (25 Ionawr 2001). "Millionaire Quiz show man dies". South Wales Echo.
- ↑ Jones, Julie (12 Mawrth 1994). "Sioned yn ôl wedi sbel yn magu teulu". Herald Gymraeg.