Sioned Gorn

Oddi ar Wicipedia
Sioned Gorn
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru

Gwrach neu "wraig hysbys" oedd Sioned Gorn ac roedd yn byw yn Nyffryn Clwyd.

Roedd Sioned yn arfer gwisgo corn gafr ar linyn o amgylch ei gwddf. Roedd yn un o'r dair gwrach pwysicaf yn Sir Ddinbych, ynghyd â Bella a Sydney.

Yn ôl y chwedl, roedd ganddi’r gallu i ddarogan y dyfodol, i ddarganfod nwyddau coll, i adfer tawelwch mewn hen dai llawn ysbrydion, ac roedd hi’n cael ei chyflogi’n aml gan bobl er mwyn rheibio’u gelynion.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]