Siôn Alun

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Sion Alun)
Siôn Alun
Ganwyd30 Hydref 1955 Edit this on Wikidata
Bu farw2 Hydref 2012 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgweinidog yr Efengyl Edit this on Wikidata
PlantSteffan Alun Edit this on Wikidata
Nid i'w ddrysu gyda'r actor, Siôn Alun Davies

Gweinidog yn ardal Abertawe oedd Siôn Alun (30 Hydref 1955 - 2 Hydref 2012)[1], neu John Alun Thomas. Cafodd ei addysg yn ysgol gynradd Pont-lliw, ac yn ysgol uwchradd Pontardawe lle daeth o dan ddylanwad Eic Davies. Symudodd i Ysgol Gyfun Gymraeg Ystalyfera pan agorodd honno. Wedyn aeth i Goleg Annibynnol Bala-Bangor dan brifathrawiaeth R. Tudur Jones a'r Athro Alwyn Charles. Enillodd y wobr gyntaf dair gwaith yn olynol ar siarad cyhoeddus yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.

Roedd yn gyn weinidog Bethel, Sgeti a'r Trinity, Abertawe. Roedd yn aelod cynnar o Gymdeithas yr Iaith[2] ac yn ymgyrchydd brwd dros addysg Gymraeg. Bu'n gadeirydd Rhieni dros Addysg Gymraeg yn Abertawe. Roedd yn briod i Catrin, a roedd ganddo ddau fab, Steffan a Gwydion.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Colofn Marwolaethau. bmdsonline.co.uk (6 Hydref 2012).
  2.  Cymdeithas yr Iaith yn 50 oed: Dylanwadau Cristnogol ar y mudiad. Mudiad Efengylaidd Cymru. Adalwyd ar 31 Ionawr 2016.
  3. Gweinidog ac ymgyrchydd adnabyddus yn marw , Golwg 360, 4 Hydref 2012.