Siocled poeth

Oddi ar Wicipedia
Cwpan o siocled poeth a hufen chwipio
Arwydd gyda siocled poeth, Caffe Starbucks, Aberystwyth 2021
jar powdr coco gyda choco brand Mazetti

Mae diod siocled poeth, hefyd diod coco neu goco, yn ddiod gyda blas o siocled sydd fel arfer yn cael ei wneud o bowdr coco a siwgr wedi'i gymysgu â dŵr neu laeth neu ddŵr a llaeth. Gellir gweini siocled poeth gyda hufen chwipio, llwyaid o hufen iâ neu malws melys. Er mai fel diod poeth yr yfir siocled fel rheol, gellid ei weini fel diod oed hefyd.

Etymoleg[golygu | golygu cod]

Mae'r term "coco" o darddiad Aztec ac yn deillio o air Nahuatl, cacahuetl neu cacauatl. Enw un o'r diodydd coco a ddefnyddir yn gyffredin gan y Maya oedd xocoatel neu chocolatl a rhoddodd ei gair i'r siocled yn Gymraeg, gan mai arferiad y Gymraeg yw troi'r sain 'ch' yn 'sh'. Mae'r termau "coco", "diod siocled" a "siocled poeth" yn wahanol o ranbarth i ranbarth ac weithiau fe'u defnyddir mewn modd camarweiniol heddiw. Yn wreiddiol, roedd "diod siocled" a "siocled poeth" yn ddiod yn seiliedig ar siocled, a choco (neu ddiod coco) yn ddiod yn seiliedig ar bowdr coco. Wrth gyflwyno diodydd parod ar gyfer bwytai ac aelwydydd preifat, fodd bynnag, mae'r termau hyn wedi dod yn aneglur. Mae diodydd ar gael sy'n cael eu gwneud ar sail powdr coco, ond heb siocled bellach yn cael eu cynnwys o dan y term siocled poeth neu ddiod siocled.[1]

Ceir cyfeiriad ar jacolet yn y Gymraeg gan William Williams Pantycelyn yn ei lyfr Pantheologia, neu, Holl Grefyddau'r Byd c1762-1779, ond efallai bod hyn yn dreiglad gan mai'r cyd-destun yw'r linell, "... caccao, neu cneuen jacolet".[2] Mae'r cyfeiriad cynharaf cofnodedig i'r gair siocled (ac nid "chocolate") yn y Gymraeg o 1906.[3]

Hanes[golygu | golygu cod]

Yn ôl yr hanes darganfu’r Sbaenwyr ddiodydd coco yn ystod cyfarfod â Moctezuma II, Ymerawdwr yr Azteciaid ym 1519. Cafodd y ddiod ei gweini am y tro cyntaf yn Ewrop yn 1544 ar ôl i bobl brodorol Maya gael eu cludo i Ewrop ac yna eu paratoi ar gyfer Tywysog Philip II, Brenin Sbaen.[4]

Blasodd y naturiaethwr Prydeinig Hans Sloane ddiod coco yn ystod alldaith i Jamaica ym 1687. Gwnaeth y ddiod iddo gyfogi ac er mwyn ei liniaru ychwanegodd laeth. Yna aeth y rysáit well hon ag ef yn ôl i'r DU.[5][6].

Chwaraeodd diodydd siocled ran bwysig mewn bywyd cymdeithasol yn y 18g gan ddod yn arwydd o soffisteigeidrwydd.[7]

Hyd at y 19g, pan ddaeth powdr coco i fodolaeth, nid oedd unrhyw un wedi datblygu dull o wahanu'r menyn coco o'r màs siocled ac felly roedd y ddiod siocled yn dew a gallai arnofio o amgylch lympiau braster ynddo.

20g ac yn ddiweddarach[golygu | golygu cod]

Mae powdrau diod siocled a diodydd siocled parod i'w prynu. Mae'r rhain yn aml yn cynnwys y cyflasyn fanilin ac weithiau ychwanegion eraill, yn aml sefydlogwyr neu'r emwlsydd lecithin (E322).

Coginio[golygu | golygu cod]

Mae gan goco gynnwys braster uchel ac yn aml mae'n cwympo mewn hylifau. Wrth baratoi eich diod siocled eich hun, dylech felly droi'r coco i'r siwgr a jioch o'r hylif cyn ei lenwi â gweddill y llaeth neu'r dŵr wrth ei droi. Mae powdr diod siocled yn aml yn cynnwys coco wedi'i leihau â braster ac weithiau ychwanegion sy'n atal y coco rhag cwympo. Yna ychwanegir y powdr yn uniongyrchol at yr hylif a'i droi.

Amrywiadau[golygu | golygu cod]

Mae yna ryseitiau ar gyfer siocled poeth sy'n seiliedig ar llaeth a siocled wedi'i doddi. Mae rhai yn cynnwys sesnin hefyd, megis mintys pupur, pupur chili, fanila neu oren; gellid ychwanegu rym hefyd[8].

Geir hefyd ddiod coffi o'r enw Caffè mocha sy'n gyfuniad o coffi espresso a siocled - unai powdr coco neu surop siocled.

Siocled Poeth a Chymru[golygu | golygu cod]

Ceir masnach mewn mygiau ar gyfer diodydd poeth, gan gynnwys siocled poeth, a rhai wedi eu haddurno gyda delweddau a'r geiriau Cymraeg "siocled poeth". Mae'r cwmni 'Pleser Pur' hefyd yn cynhyrchu siocled mewn gwahanol flasau i bobl greu siocled poeth ei hunain gartref.

Ceir hefyd llyfr Cymraeg, Siocled Poeth a Marshmalos sy'n gasgliad o gerddi i blant gan Caryl Parry Jones.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Grivetti, Louis E.; Shapiro, Howard-Yana (2009). Chocolate: history, culture, and heritage (yn Saesneg). John Wiley and Sons. t. 345. ISBN 978-0-470-12165-8.
  2. William Williams (1762). Pantheologia, neu Hanes holl grefyddau'r byd. t. 46.
  3. "Jacolet". Geiriadur Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 15 Tachwedd 2021.
  4. "Kakao: "Det gudarna äter"". Världens Historia. 31 Mai 2016. (Iseldireg)
  5. "About Sir Hans Sloane | Natural History Museum" (yn Saesneg). www.nhm.ac.uk. 24 Ionawr 2018.
  6. J. Delbourgo. "=Sir Hans Sloane's Milk Chocolate and the Whole History of the Cacao" (yn en). Social Text 29 (1 106). doi:10.1215/01642472-1210274. ISSN 0164-2472. https://read.dukeupress.edu/social-text/article-abstract/29/1%20(106)/71/33660/Sir-Hans-Sloane-s-Milk-Chocolate-and-the-Whole?redirectedFrom=fulltext. Adalwyd 24 Ionawr 2018.
  7. Choklad på NE.se
  8. "Diod y duwiau - siocled poeth blasus ac iach". cy.delachieve.com. Cyrchwyd 2021-11-20.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]