Siobyn gwelw
Calliteara pudibunda | |
---|---|
![]() | |
Siobyn gwelw | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Lepidoptera |
Teulu: | Lymantriidae |
Genws: | Calliteara |
Rhywogaeth: | C. pudibunda |
Enw deuenwol | |
Calliteara pudibunda (Linnaeus, 1758) | |
Cyfystyron | |
|
Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw siobyn gwelw, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy siobynnau gwelw (-on); yr enw Saesneg yw Pale Tussock, a'r enw gwyddonol yw Calliteara pudibunda.[1][2] Mae i'w ganfod yn Ewrop ac Anatolia.
40–60 mm ydy lled adenydd agored yr oedolyn ac mae'n hedfan rhwng Ebrill a Mehefin. Prif fwyd y lindys ydy mathau gwahanol o: dderwen, helygen, bedwen, Prunus a Crataegus.
-
♂
-
♀
Bioleg
[golygu | golygu cod]Mae'r gwyfyn yn hedfan o fis Ebrill i fis Mehefin.
Wy yn frown melyn golau gyda smotyn canol tywyll. Mae'r larfa fel arfer yn felyn lemwn golau, ond weithiau'n felyn brown, fioled neu lwyd du, gyda thoriadau segmental du dwfn, brwsys dorsal ysgafnach a phensil coch neu frown ar yr 11eg segment. Mae'r larfa'n bwydo ar rywogaethau derw, ffawydd, helyg, bedw, Prunus a Crataegus. Arferai fod yn bla ar blanhigion hopys yn siroedd cartref Lloegr, lle'r oedd yn cael ei adnabod fel y ci hopys.[3]
Cyffredinol
[golygu | golygu cod]Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae'r siobyn gwelw yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.
Enwau
[golygu | golygu cod]Y siobyn gwelw efallai yw’r unig wyfyn yng ngwledydd Prydain sydd ag enw gwerinol naturiol (yn hytrach nag enw sydd wedi ei fathu). Pale tussock yw’r enw safonol Saesneg ond roedd y cyweinwyr hopys yng Nghaint yn arfer ei alw yn HOP DOG - roedd dail hopys yn fwyd i’r lindys ac roedd rhain yn greaduriaid cyfarwydd iawn i’r Llundeinwyr a arferai dreulio eu “gwyliau” haf yn cywain hopys i’r cwmnïau bragu.[4]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
- ↑ Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.
- ↑ Skinner, Bernard; Wilson, David (2009). Canllaw Adnabod Lliwiau i Wyfynod Ynysoedd Prydain. Stenstrup, Denmarc: Brill. t. 96. ISBN 9789004261020.
- ↑ Bwletin Llên Natur rhifyn 33