Siobyn cynffon frown

Oddi ar Wicipedia
Euproctis chrysorrhoea
Brown-tail
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Lymantriidae
Genws: Euproctis
Rhywogaeth: E. chrysorrhoea
Enw deuenwol
Euproctis chrysorrhoea
(Linnaeus, 1758)

Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw siobyn cynffon frown, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy siobynnau cynffon frown; yr enw Saesneg yw Brown-tail, a'r enw gwyddonol yw Euproctis chrysorrhoea.[1][2] Mae i'w ganfod drwy Ewrop ac ers y 1890au yng Ngogledd America: rhwng Maine a Cape Cod.

36–42 mm ydy lled yr adenydd agored. Mae'n hedfan yn y nos a chaff ei ddenu gan olau.

Mae'n bwyta amrywiaeth o fathau o goed, sydd ynddo'i hun yn anghyffredin a chaiff ei ystyried yn bla mewn llawer o lefydd. Mae'n gaeafgysgu fel chwiler mewn pabell swmpus o silc. Gall cyffwrdd blewiach y gwyfyn hwn fod yn beryglus, gan achosi rash, cur pen a hyd yn oed ei gwneud hi'n anodd i anadlu.[3]

Cyffredinol[golygu | golygu cod]

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r siobyn cynffon frown yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.
  3. Fear over poisonous caterpillars BBC News 16 Mai 2007