Simon Reeve

Oddi ar Wicipedia
Simon Reeve
Ganwyd21 Gorffennaf 1972 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Man preswylLlundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Twyford Church of England High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethfforiwr, newyddiadurwr, ysgrifennwr, cyflwynydd teledu Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe New Jackals Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Ness Edit this on Wikidata

Awdur a chyflwynydd teledu Prydeinig yw Simon Alan Reeve (ganwyd 21 Gorffennaf 1972)[angen ffynhonnell], sy'n byw yn Llundain. Mae'n gwneud rhaglenni teithio dogfen ac mae wedi ysgrifennu llyfrau ar derfysgaeth ryngwladol, hanes modern ac ar ei anturiaethau. Cyflwynodd gyfresi teledu ar gyfer y BBC gan gynnwys: Tropic of Cancer, Equator a Tropic of Capricorn.

Reeve yw awdur mwyaf llewyrchus y New York Times diolch i'w lyfrau The New Jackals (1998), One Day in September (2000) a Tropic of Capricorn (2007). Derbyniodd wobrau One World Broadcasting Trust a Gwobr Ness yn 2012 gan y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol.[1][2]

Bywyd a gyrfa[golygu | golygu cod]

Ganwyd Reeve yn Hammersmith[3] ac fe'i magwyd yng ngorllewin Llundain, gan fynychu ysgol gyfun leol. Anaml iawn aeth dramor pan oedd yn blentyn.[4] Ar ôl gadael ysgol, dechreuodd gyfres o swyddi, gan gynnwys gweithio mewn archfarchnad, siop gemwaith a siop elusen, cyn iddo ddechrau ymchwilio ac yn ysgrifennu yn ei amser sbâr, tra'n dosbarthu papur newydd.

Ar ôl yr ymosodiadau 11 Medi 2001, dechreuodd Reeve wneud rhaglenni dogfen teithio ar gyfer y BBC. Mae Tom Hall, golygydd teithio ar gyfer cyhoeddiadau'r Lonely Planet, wedi disgrifio rhaglenni dogfen teithio Reeve fel "rhaglenni teithio gorau'r pum mlynedd diwethaf".[5]

Ar ôl dal malaria ar daith o gwmpas y Cyhydedd, daeth yn llysgennad ar gyfer y Ymgyrch Ymwybyddiaeth Malaria.[6][7] Ynghyd â Syr David Attenborough ac arbenigwyr ar gadwraeth eraill, mae Reeve yn aelod o Gyngor y Llysgenhadon yr WWF, un o'r sefydliadau amgylcheddol mwyaf blaenllaw'r byd.[8]

Ym mis Ionawr 2013, ymddangosodd Reeve mewn pennod elusennol arbennig o The Great British Bake Off.

Teledu[golygu | golygu cod]

Meet the Stans (2003)[golygu | golygu cod]

alt text
Simon Reeve yn Libya yn teithio o gwmpas y Trofan Canser
Simon Reeve ar y ffîn yn nhiriogaeth ddadleuol Nagorno-Karabakh

Cyfres deledu bedair rhan ar Ganolbarth Asia oedd Meet the Stans ar sianelau Prydeinig BBC Two a BBC World, a ysgrifennwyd ac a gyflwynwyd gan Reeve. Yn y gyfres bu Reeve yn teithio o bellafoedd gogledd-orllewin Kazakhstan, wrth y ffîn â Rwsia, i'r dwyrain o'r ffîn Tseiniaidd, i'r de trwy Kyrgyzstan a Tajicistan ac i ymylon Affganistan ac i'r gorllewin i Wsbecistan ac i ddinasoedd chwedlonol y Ffordd Sidan o Samarkand a Bukhara. Fe'i ddarlledwyd ar y BBC yn 2003, ac yna'n ryngwladol yn ystod 2004 a 2005.[9][10][11]

House of Saud (hefyd a ddarlledwyd fel: Saudi: The Family in Crisis) (2004)[golygu | golygu cod]

Rhaglen ddogfen unigryw ar gyfer sianelau Prydeinig BBC Two a BBC World a'i ffilmiwyd yn Saudi Arabia, a ysgrifennwyd ac a'i chyflwynwyd gan Reeve. Bu'n daith ac aeth a Reeve ar draws Saudi Arabia, o ddinasoedd Jeddah a Riyadh i anialwch helaeth y Chwarter Gwag. Bu cyfrannwr i'r rhaglen yn amrywio o dywysogion Saudi a milwyr Islamaidd, i ferched yn eu harddegau a chyn hen ffrind gorau Osama bin Laden. Darlledwyd yn 2004.[12][13]

Places That Don't Exist (2005)[golygu | golygu cod]

Places That Don't Exist oedd cyfres bum-rhan lwyddiannus Reeve yn 2005 a enillodd wobr ar 'genhedloedd enciliol a chenhedloedd di-gydnabod, a ddarlledwyd ar y sianel Brydeinig BBC Two a darlledwyr yn ryngwladol. Ymhlith y gwledydd Reeve bu'n ymwelwyd â hwy'n gyfres hon oedd Somaliland, Transnistria (lle cafodd Reeve ei ddal am 'ysbïo' gan yr FSB[14]), Nagorno-Karabakh, Ajaria, De Ossetia, Aserbaijan, Armenia, Somalia, Moldofa a Taiwan. Ymwelodd hefyd â Mogadishu, un o ddinasoedd peryglaf y byd.[15]

Equator (2006)[golygu | golygu cod]

Roedd Equator yn raglen ddogfen dair rhan gan y sianel Brydeinig y BBC a ddarlledwyd yn gyntaf ym mis Medi 2006 lle bu Reeve yn dilyn y Cyhydedd o amgylch y byd. Ymhlith y lleoedd a ymwelodd â hwy oedd yr rhai o ardaloedd peryclaf Gweriniaeth Ddemocrataidd y CongoColombia. Roedd y gyfres yn enillydd y Silver Award yng ngwobrau Wonderlust Travel Awards 2007.[16] Bu iReeve gael ei heintio â malaria wrth ffilmio'r gyfres hon.[17]

alt text
Simon Reeve yn Equator

Tropic of Capricorn (2008)[golygu | golygu cod]

ddogfen bedair-rhan ar gyfer y sianel Brydeinig y BBC o 2008 oedd Tropic of Capricorn a oedd yn olrhain Reeve ar hyd ymylon ddeheuol y rhanbarth trofannol o amgylch y byd. Yn y gyfres, a oedd yn cyd-fynd â'r llyfr a oedd yn seiliedig â'r gyfres deledu o'r un enw, hefyd a ysgrifennwyd gan Reeve, yn amlinellu ei daith drwy dde Affrica, Madagascar, Awstralia ac ar draws De America. Croesodd Reeve Mynyddoedd yr Andes, ac anialychau'r Namib, Kalahari ac Atacama.[18]

Explore (2009)[golygu | golygu cod]

Cyfres pedair rhan gyfer sianel Brydeinig BBC Two a ddarlledwyd o 25ed Ionawr hyd at 15fed Chwefror 2009 yn y DU. Wrth arwain tîm o ohebwyr mewn teithiau o ddarganfod i rai o leoliadaug mwyaf lliwgar a dwys y ddaear, cyfunnodd Explore deithio gyda materion cyfoes. Mantra'r gyfres oedd "Peidiwch dim ond ag ymweld...Archwilich!" Bu rhaglenni'n cynnwys: Patagonia (â'r Wladfa) i'r Pampas, Affrica Dyffryn yr Hollt Fawr dwyrain Affrica, Istanbul i Anatolia a Manila i Mindanao. Bu materion a drafodwyd yn y gyfres yn amrywio o ffermio-orfodol i werthwyr ffasiwn byd-eang, terasau reis Treftadaeth y Byd i dranc diwydiannau mêl, newyn eithafol i bêl-droed eithafol. Bu'r ymweliad i Manila'n cynnwys cyfweliad arbennig gydag Imelda Marcos lle bu iddi'n ddiarwybod rannu dogfen gyda Reeve a ddangosai fod gan ei diweddar ŵr, yr unben Ferdinand Marcos, ddaliadau gwerth $937 biliwn mewn banc ym Mrwsel. Ceisiodd Imelda ar unwaith schub ei chamgymeriad ond yr oedd eisoes wedi ei dal ar gamera.

Tropic of Cancer (2010)[golygu | golygu cod]

Cyfres deledu chwe-rhan lle roedd Reeve yn teithio o gwmpas y Trofan Canser, sef ffîn ogleddol rhanbarth drofannol y Ddaear. Ar ôl teithio o gwmpas y Trofan Capricorn a'r Cyhydedd, fe gwblhaodd y gyfres hon y drioleg o deithiau archwilio'r trofannau i Reeve.[19] Yn dechrau ar arfordir y Cefnfor Tawel o Mecsico, dilynnai Reeve Trofan Canser bron 37,000 o gilomedrau. Mae'r daith yn mynd ag ef drwy 18 o wledydd, yn amrywio o Mecsico a Mauritania, i Fangladesh â'r Bahamas.[20] Cafodd y bennod gyntaf ei darlledu ar Fawrth 14 2010. Cafodd y gyfres ei darlledu ar y BBC'n y DU, a gan ddarlledwyr mewn tros 40 o wledydd ar BBC World News yn fyd-eang.

Indian Ocean (2012)[golygu | golygu cod]

Cyfres chwe-rhan a ddarlledwyd ar sianel Brydeinig y BBC yn ystod 2012 – lle bu Reeve ar daith o amgylch ymylon Cefnfor India.[21]

Australia with Simon Reeve (2013)[golygu | golygu cod]

Yn y rhaglen gyntaf o dair mewn cyfres a ddarlledwyd ar sianel Brydeinig BBC Two, teithiodd Reeve ar antur o 'Ganol Goch' Awstralia i'r de i'r ardal win, yna i'r gorllewin i Perth. Yn yr ail raglen, gwelwn ef yn teithio ar draws y gogledd gwyllt anghysbell i'r Great Barrier Reef, ac yn y drydydd a'r rhaglen olaf yn y gyfres aeth Reeve lawr ar hyd arfordir ddwyreiniol i ddinasoedd Sydney a Melbourne.[22][23]

Pilgrimage with Simon Reeve (2013)[golygu | golygu cod]

Cyfres deledu o dair rhaglen a ddarlledwyd ar sianel Brydeinig BBC Two ym mis Rhagfyr 2013. Mewn cyfres o dair rhaglen bu Reeve yn teithio drwy Ewrop â'r Wlad Sanctaidd yn Israel. Mae'n olrhain llwybrau hynafol y pererinion.

  1. "owbt.org". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 Mawrth 2007. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. [1]
  3. "Index entry". FreeBMD. ONS. Cyrchwyd 11 Mehefin 2016.
  4. Wilkinson, Carl (1 Mai 2005). "On the road to nowhere". The Guardian. Cyrchwyd 23 Mai 2010.
  5. Productions, Shootandscribble. "WELCOME".
  6. Deeley, Laura (12 Mai 2007). "A real globetrotter". The Times. Cyrchwyd 23 Mai 2010. Unknown parameter |subscription= ignored (help)
  7. "Home - GSK UK". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-02-10. Cyrchwyd 2018-10-29.
  8. "Archived copy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 Rhagfyr 2013. Cyrchwyd 21 Tachwedd 2013. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)CS1 maint: archived copy as title (link)CS1 maint: Archived copy as title (link)
  9. Reeve, Simon (29 Medi 2003). "Meet the Stans". BBC News. Cyrchwyd 23 Mai 2010.
  10. Productions, Shootandscribble. "Guardian Article".
  11. "CBC: Correspondent – December 20, 2004". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Awst 2007. Unknown parameter |dead-url= ignored (help)
  12. Productions, Shootandscribble. "House of Saud".
  13. "Saudi: The Family in Crisis". BBC News. 8 Gorffennaf 2004. Cyrchwyd 23 Mai 2010.
  14. Tryhorn, Chris (7 Medi 2004). "BBC journalists held by Russians". The Guardian.
  15. Productions, Shootandscribble. "Places That Don't Exist".
  16. Productions, Shootandscribble. "Equator".
  17. "Home - GSK UK". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-11-24. Cyrchwyd 2018-10-29.
  18. "Tropic of Capricorn". BBC News. 10 Mawrth 2008. Cyrchwyd 23 Mai 2010.
  19. "BBC - Error 404 : Not Found".[dolen marw]
  20. Productions, Shootandscribble. "Tropic of Cancer".
  21. Productions, Shootandscribble. "Indian Ocean".
  22. http://www.bbc.co.uk/mediacentre/proginfo/2013/21/australia.html Archifwyd 2018-11-07 yn y Peiriant Wayback. BBC website
  23. http://www.shootandscribble.com/sr/page6/page36/page36.html Official website

Tea trail/Coffee trail with Simon Reeve (2014)[golygu | golygu cod]

Yn The Tea Trail, teithiodd Reeve o Mombasa, Cenia ac arwerthiant te, cyn cymryd y drên i Nairobi ac i orllewin Kenya i ymweld â phlanhigfeydd trefedigaethol cyn croesi'r ffîn i Wganda, a darganfod y mater o loafer plant yn Toro.

Yn The Coffee Trail yn Fietnam, aiff Reeve i'r de o Hanoi ar yr Reunification Express i Huế, lle bu'n ymweld a Gorsaf Frwydro Khe Sanh Brwydro, cyn gyrru drwy blanhigfeydd coffi i Buon Ma Thuot, cyfarfod a biliwnydd coffi (Dang Le Nguyen Vu). Yna mae'n cyfarfod a Dave D'Haeze sy'n trafod y nifer fawr o broblemau cynyddol yn gyswwlt â thyfu coffi yn Fietnam, yn enwedig datgoedwigo, a dulliau amaethyddol gwael (planhigfeydd ungnwd, gorddefnyddio gwrtaith, gorddefnydd o ddŵr, problemau ychwanegol o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd). Yna, mae'n teithio i Barc Cenedlaethol Yok Don a'r coedwigoedd glaw, cyn cyrraedd pen y daith ym mhorthladd Dinas Ho Chi Minh, via Bangkok lle mae'n cwrdd â ymgyrchwyr hawliau dynol. Yma, mae'n cyfarfod Will Frith sy'n trafod y dyfodol o dyfu coffi yn Fietnam.

Sacred Rivers with Simon Reeve (2014)[golygu | golygu cod]

Darlledwyd y raglan hon mewn tair rhan ar sianel BBC Two ym mis Hydref 2014. Yn yr rhaglen gyntaf, aiff Reeve at Afon Nîl. Yn yr ail raglen, ymwêl ag Afon Ganges yn India, gan edrych ar ei gwerthoedd diwylliannol a beth mae'n ei olygu i bobl India. Mae'r drydedd raglen yn seiliedig ar Afon Yangtze yn Tsieina. Mae'r gyfres wedi cael ei ryddhau ar DVD (Rhanbarth 2), a elwir yn syml Sacred Rivers.

Caribbean with Simon Reeve (2015)[golygu | golygu cod]

Darlledwyd y gyres dair-rhan hon ar sianel BBC Two'n y DU yng ngwanwyn 2015. Yn yr rhaglen gyntaf, aiff Reeve i archwilio Haiti, Gweriniaeth Dominica ac un o diriogaethau'r Unol Daleithiau sef Puerto Rico, tra'n yr al raglen, aeth Reeve i ymweld â Barbados, St. Vincent ac arfordir y Caribî o Venezuela a Colombia. Yn ystod y drydedd raglan, crwydrai Reeve ar hyd rhan o arfordir Caribî Canolbarth America, gan gynnwys Honduras, cyn dod i ben ei daith yn Jamaica.

Ireland with Simon Reeve (2015)[golygu | golygu cod]

Cyfres o ddwy raglen a ddarlledwyd ar dianel BBC Two (DU) yn Nhachwedd 2015. Yn olrhain antur Reeve ar daith trwy Gweriniaeth Iwerddon a Gogledd Iwerddon, gan edrych ar ynys yn gyfoethog mewn hanes, diwylliant a chredoau, gan hefyd edrych ar ei cymhlethdodau a'i hanes cythryblus.

Greece with Simon Reeve (2016)[golygu | golygu cod]

Darlledwyd y gyfres ddwy-ran yma'n Chwefror 2016 ar sianel Brydeinig BBC Two. Yn astod y gyfres bu Reeve yn ymweld â ynysoedd Kos, Lesbos a Creta, a phrifddinas Groeg sef Athen, tra hefyd yn teithio o benrhyn y Peloponnese yn y de i rhanbarthau mynyddig gogleddol y wlad.

Turkey with Simon Reeve (2017)[golygu | golygu cod]

Cyfres ddwy-ran a ddarlledwyd ar y sianel Brydeinig BBC Two ym mis Mawrth a mis Ebrill 2017. Bu Reeve yn ymweld â Twrci, gydag uchafbwyntiau gan gynnwys Ankara, Istanbul, Mynyddoedd Taurus a'r Môr Du.

Colombia with Simon Reeve (2017)[golygu | golygu cod]

Dogfen air o hyd lle bu Reeve yn crwydro Colombia ac yn dod wine-yn wyneb â FARC a daw i wybod am fodolaeth gangiau parafilwrol adain-dde sy'n bygwth tyfu'n ardaloedd gwledig y wlad.

Russia with Simon Reeve (2017)[golygu | golygu cod]

Mae hon yn gyfres o dair rhaglen a chafodd ei darlledu'n gyntaf ym misoedd Medi a Hydref 2017 ar y sianel Brydeinig, BBC Two. Ynddi mae Simon Reeve yn teithio ar draws Rwsia, gan ddechrau ym mhellteroedd dwyreiniol Kamchatka cyn gorffen ei antur yn Sant Petersburg. Yn y raglen gyntaf daw Reeve i wybod am ddiwylliannau brodorol, a dylanwad Tsieina yn Vladivostok, cadwraeth a newid yn yr hinsawdd. Mae hefyd yn canfod ei hun yn cael eu wylio gan yr heddlu.[1] Mae'r ail bennod yn dechrau yn Llyn Baikal, yna cawn ddilyn ei daith ar Rheilffordd Traws-Siberia. Yn astod yr ail raglen, bu Reeve yn cwrdd â Cossacks, dyn a honnia i fod yr ail-ymgnawdoliad Crist, cerddwyr rhaff a chantorion gwddf Tuvan, ymhlith eraill.[2] Gwêl y drydydd raglen Reeve gorffen ei daith yng ngorllewin y wlad, yn ymchwilio i effeithiau o gyfeddiannaeth Rwsia o Crimea, cyn ymweld â Moscow, Sant Petersburg a phentrefi cefn gwlad.[3]

Burma with Simon Reeve (2018)[golygu | golygu cod]

Crwydrai Simon Reeve i harddwch Burma gythryblus – neu Myanmar fel eu'i gelwir yn swyddogol – ar gyfer cyfres ddwy-ran. Ar ôl cefnu ar ddegawdau o lywodraethu gan rym llym filwrol, mae'r wlad erbyn hyn wedi dychwelyd i ddemocratiaeth dan arweiniad etholedig enillwraig Gwobr Heddwch Nobel llawryfog Aung San Suu Kyi.

Mediterranean with Simon Reeve (2018)[golygu | golygu cod]

Cyfres ddogfen pedair rhan a ddarlledwyd ar sianel Brydeinig BBC Two'n ystod mis Hydref 2018. Yma bu Reeve ar grwydr ac nature o amgylch Môr y Canoldir gan ddechrau'n y rhaglen gyntaf ar ynys fechan Malta. Yno bu'n adrodd ar hanes llofruddiaeth y newyddiadurwraig gwrth-anonestrwydd Daphne Caruana Galizia ar 16fed o Hydref 2017 yn ei phentref yn Bidnija. Hefyd mae'n sôn am y modd mae arian anghyfreithlon yn cael ei guddio drwy systemau bancio a busnes cyfreithlon (money laundering) ar yr ynys a sut mae tŵf ym mhoblogrwydd math o dwristiaeth yn amharu'n anffafriol ar y boblogaeth leol. Yna bu Reeve yn symud ymlaen i dde'r Eidal, yn benodedig rhanbarthau Calabria a Basilicata ac yn adrodd ar sut mae'r llywodraeth yno'n ceisio brwydro'n erbyn marchnad y cyffuriau anghyfreithlon sydd yn cael ei reoli gan y maffia pwerus lleol sef yr Ndrangheta. Mae'n hefyd yn galw heibio elusen lleol sy'n arbenigo mewn achub crwbanod y môr (Centro Recupero Tartarughe Marine Di Barancaleone) a'r effaith mae gwastraff plastig yn ei gael arnynt. Yn Puglia, mae Reeve yn cyfarfod a ffermwyr olewydd sy'n colli eu bywoliaeth oherwydd afiechyd sy'n lladd eu coed.Ar ddiwedd y raglen gyntaf mae Reeve yn croesi'r Môr Adriatg yn Mrindisi ac yn hwylio i Albania lle mae'n ymweld a pharc cenedlaethol sy'n arbenigo mewn gwarchod gwlypdir anferthol a'r holl adar sy'n dibynnu arno.

Yn yr ail raglen bu Reeve yn ymweld â Chiprus a'r gwahaniaethau sy'n dal i fod rhwng y boblogaethau Groegaidd a Thwrcaidd. Oddi yno, aiff yn ei flaen i Libanus, Israel a Phalesteina'n y Dwyrain Canol. Yn y drydedd raglen, bu Reeve yn ymweld a Libya a dinas Sirte lle bu brwydro ffyrnig rhwng ISIS a lluoedd awyr y Gorllewin. Ar ôl cyrraedd Tunisia, bu Reeve yn ymweld a'r Berbers, sy'n bobl lleiafrifol yn y wlad cyn mynd yn ei flaen i ynys Sicily a dylanwad y maffia yno.

Yn y raglan olaf, bu Reeve yn ymadael ag Affrica drwy Ceuta i gyfandir Ewrop ac yn crwydro de Sbaen cyn cyrraedd gorllewin ynys Corsica.

Llyfrau[golygu | golygu cod]

Mae llyfrau Reeve wedi cael eu cyfieithu i dros 20 o ieithoedd.[4]

The New Jackals[golygu | golygu cod]

Tra'n gweithio fel awdur ymchwiliol, dechreuodd Reeve astudio bomio Canolfan Masnach y Byd 1993 ychydig ddiwrnodau ar ôl yr ymosodiad. Mae ei ymchwil yn ffurfio sail ar gyfer y llyfr, The New Jackals: Ramzi Yousef, Osama bin Laden and the Future of Terrorismac, a gyhoeddwyd yn y Ddeyrnas Unedig a'r UDA yn y 1990au hwyr. The New Jackals oedd y llyfr cyntaf ar bin Laden.[5]

Wrth wneud gwaith ymchwil i'r llyfr, bu i Reeve olrhain a chyfweld cefnogwyr bin Laden a swyddogion o'r FBI, CIA a chided-swyddogion Asiaidd yn o gystal â chyfarfodydd dirgel gyda ysbïwyr a milwriaethwyr.[6]

Yn ôl gwybodaeth gyfrinachol a nodwyd gan Reeve yn y llyfr yn manylu ar y fodolaeth, datblygiad ac amcanion grŵp terfysgol al-Qaeda. Mae'r llyfr yn rhybuddio bod cynlluniau am ymsodiadau enfawr ar y Gorllewin gan al-Qaeda, a daeth i'r casgliad fyddai cynllun terfysgol apocalyptaidd gan y grŵp bron a bod yn anochel. Bu'n un o lyfrau rhyngwladol mwyaf llewyrchus o ran gwerthiant yn ôl y New York Times,[7] ac yn y tri mis ar ôl ymosodiadau 9/11 roedd yn un o'r tri o lyfrau mwyaf llewyrchus o ran gwerthiant yn yr Unol Daleithiau.[8] Mae'r llyfr wedi cael ei gyfieithu i nifer o ieithoedd.

Yn dilyn ymosodiadau Medi 11fed, daeth Reeve yn sylwebydd rheolaidd a cyfeirnod ffynhonnell ar ymgodiad fygwthiadau terfysgol. Mae Reeve wedi'i ddyfynnu'n The New York Times' yn rhybuddio bod al-Qaeda yn symud "ymhell y tu hwnt i fod yn sefydliad terfysgol i fod bron yn gyflwr meddwl. Mae hynny'n ofnadwy o bwysig oherwydd mae'n rhoi y mudiad cyfeiriad a hirhoedledd i'r mudiad nad oedd ganddynt cyn 9/11."[9]

One Day in September[golygu | golygu cod]

Cyhoeddwyd One Day in September yn y flwyddyn 2000 ac mae'n ymwneud â chyflafan Munich a digwyddiadau dilynol o'r fath megis yr herwgipiad o awyren Lufthansa 615 a'r dial gan wasanaethau cudd Israel a alwyd yn Digofaint Duw. Mae'r llyfr yn amlinellu'r gwarchae a'r gyflafan yn ystod y 1Gemau Olympaidd yr Haf 1972, pryd lladdwyd 11 o athletwyr Israelaidd a swyddogion gan grŵp Palesteinaidd Medi Du, gan hefyd ganolbwyntio ar y canlyniadau.[10] Mae'n cyd-fynd â ffilm ddogfen o'r un enw, a gyfarwyddwyd gan Kevin Macdonald, ac enillodd Wobr yr Academi ar gyfer rhaglen Ddogfen Nodwedd yn 2000 a gafodd ei ryddhau mewn sinemâu ledled y byd.

Tropic of Capricorn[golygu | golygu cod]

Tropic of Capricorn: circling the world on a southern adventure, fe'i ysgrifennwyd i gyd-fynd â'r gyfres deledu o'r un enw.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Mae Reeve yn briod ag Anya, dynes camera teledu ac ymgyrchydd. Mae ganddynt un mab, Jake.[11]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • The New Jackals: Ramzi Yousef, Osama bin Laden and the future of terrorism. Cyhoeddwyd y llyfr yn yr Unol Daleithiau ac yn y DU ym 1998 a 1999.
  • One Day in September: the full story of the 1972 Munich massacre and the Israeli operation 'Wrath of God',
  • Tropic of Capricorn. BBC Books. 6 Chwefror 2008. ISBN 978-1-84607-440-0.Check date values in: |date= (help)
  • Step by Step: The Life in My Journeys. Hodder & Stoughton. 2018.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Summers, Chris (25 Ionawr 2014). "Russia With Simon Reeve". BBC Media Centre. British Broadcasting Corporation. Cyrchwyd 13 Hydref 2017.
  2. "Russia With Simon Reeve: Episode Two". BBC Two. British Broadcasting Corporation. 5 Hydref 2017. Cyrchwyd 13 Hydref 2017.
  3. Catterall, Ali (12 Hydref 2017). "Thursday's best TV: An Hour to Catch a Killer; Russia with Simon Reeve". The Guardian. Cyrchwyd 13 Hydref 2017.
  4. http://www.shootandscribble.com/sr/page1/page1.html Official website
  5. "Australia with Simon Reeve - Simon Reeve - BBC Two".
  6. Productions, Shootandscribble. "The New Jackals".
  7. "BEST SELLERS: November 18, 2001". 18 Tachwedd 2001.
  8. Productions, Shootandscribble. "ABOUT SIMON".
  9. Shane, Scott (11 Awst 2006). "Scale and Detail of Plane Scheme Recall Al Qaeda". The New York Times. Cyrchwyd 23 Mai 2010.
  10. "Interview with Simon Reeve". abc.net. 22 Awst 2000. Cyrchwyd 16 Hydref 2013.
  11. "'I survived KGB, sharks and drug gangs thanks to bomb-proof boxer shorts' – Says adventurer Simon Reeve". 19 Ebrill 2012.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]