Simeon I, ymerawdwr Bwlgaria

Oddi ar Wicipedia
Simeon I, ymerawdwr Bwlgaria
Ganwydc. 864 Edit this on Wikidata
Pliska Edit this on Wikidata
Bu farw27 Mai 927 Edit this on Wikidata
Preslav Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFirst Bulgarian Empire Edit this on Wikidata
Galwedigaethbrenin neu frenhines Edit this on Wikidata
Swyddkhan, ymerawdwr, Tsar of Bulgaria Edit this on Wikidata
TadBoris I, Tsar Bwlgaria Edit this on Wikidata
MamMaria Edit this on Wikidata
PriodMaría Sursuvul Edit this on Wikidata
PlantIvan, Peter I of Bulgaria, Boyan The Magician, Mihail of Bulgaria Edit this on Wikidata
LlinachTeyrnas Krum Edit this on Wikidata

Ymerawdwr (tsar) Bwlgaria rhwng 893 a 927 oedd Simeon I neu Simeon Fawr, Bwlgareg: Симеон I Велики, (864 neu 865 - 27 Mai 927).

Ymerodraeth Bwlgaria yn ystod teyrnasiad Simeon I

Yn ystod ei deyrnasiad ef, cyrhaeddodd Ymerodraeth Gyntaf Bwlgaria ei hanterth, yn dilyn buddugoliaethau yn erbyn yr Ymerodraeth Fysantaidd, y Magyar a'r Serbiaid. Dywedid fod prifddinas newydd Simeon, Preslav, yn cystadlu a dinas Caergystennin ei hun o ran gwychder.

Roedd Simeon yn fab i Boris I, oedd wedi bwriadu iddo fynd yn offeiriad. Gyrrwyd ef i Brifysgol Caergystennin i astudio, a daeth yn rhugl mewn Groeg. Dychwelodd i Fwlgaria tua 888, i fynachlog newydd Preslav. Roedd Boris wedi trosglwyddo'r orsedd i'w fab Vladimir ac ymddeol i fynachlog, ond pan geisiodd Vladimir ddychwelyd Bwlgaria at baganiaeth, cymerodd Boris yr orsedd yn ôl ac enwi Simeon fel ei olynydd.

Dechreuodd rhyfel yn erbyn yr Ymerodraeth Fysantaidd pan ymyrrodd Leo VI a marsiandïwyr Bwlgaraidd yn yr ymerodraeth. Ymosododd Simeon ar y Bysantiaid, gan ennill buddugoliaeth fawr, ond bu raid iddo encilio i ddelio ag ymosodiad gan y Magyar. Cytunwyd i gadoediad gyda'r Ymerodraeth Fysantaidd yn 895. Gorchfygodd Simeon y Magyar yn 896, cyn ymosod ar y Bysantiaid eto a'i gorchfygu ym Mrwydr Bulgarophygon. Gosododd Gaergystennin dan warchae, ond llwyddodd Leo VI i amddiffyn y ddinas, yn rhannol trwy roi arfau i garcharorion Arabaidd i ymnladd yn erbyn y Bwlgariaid. Gwnaed cytundeb heddwch, gyda'r Ymerodraeth Fysantaidd yn talu teyrnged flynyddol i Simeon.

Pan fu farw Leo VI yn 912, gwrthododd ei frawd Alexander, oedd yn rhaglaw dros fab Leo, Cystennin VII, dalu'r deyrnged flynyddol. Ymosododd Simeon ar yr Ymerodraeth Fysantaidd eto, gan obeithio gwireddu ei uchelgais o gipio Caergystennin. Bu farw Alexander yn 913, a bu terfysgoedd yng Nghaergystennin. Persiawidwyd Simeon i wneud cytundeb heddwch gan y Patriarch Nicholas; cytunwyd i dalu'r deyrned a bod Cystennin VII i briodi un o ferched Simeon, a fyddai'n cael ei gydnabod yn swyddogol gan y Patriarch fel Ymerawdwr Bwlgaria.

Bu rhyfel arall rhwng Simeon a'r Bysantiaid yn 917, pan ymosododd byddin Fysantaidd dan Leo Phokas ar Fwlgaria. Gorchfygodd Simeom hwy ym Mrwydr Anchialos, gan ladd nifer mawr ohonynt. Symudodd Simeon tua Caergystennin, ac enillodd fuddugoliaeth arall ym Mrwydr Katasyrtai. Cipiodd y llynghesydd Romanos Lekapenos rym yng Nghaergystennin, gan ddod yn gyd-ymerawdwr a Cystennin VII. Parhaodd yr ymladd am rai blynyddoedd, gyda'r Bwlgariaid yn cipio Adrianople yn 921. Cyfarfu Simeon a Romanos yn 924 a gwnaed cytundeb heddwch. Bu farw Simeon yn 927 o drawiad ar y galon, a dilynwyd ef gan ei fab Pedr I..