Silwair

Oddi ar Wicipedia
Bêls silwair

Porthiant sydd wedi eplesu a'i storio ac yn gallu cael ei ddefnyddio i fwydo gwartheg, defaid ac anifeiliaid eraill sy'n cnoi cil yw silwair[1] Mae'n eplesu ac yn cael ei storio trwy broses sy'n cael ei alw'n silweirio, ac fel arfer wedi'i wneud o gnydau gwaith, gan gynnwys indrawn, sorghwm neu rawn eraill, gan ddefnyddio'r planhigyn gwyrdd i gyd (ac nid y grawn yn unig). Gellir gwneud silwair o nifer o gnydau maes.[2]

Mae silwair yn cael ei gynhyrchu trwy un neu ragor o'r dulliau canlynol: gosod tyfiant gwyrdd sydd wedi'i dorri mewn seilo neu bydew; llwytho'r tyfiant mewn pentwr mawr a'i wasgu i lawr er mwyn clirio cymaint o ocsigen â phosib, ac yna'i orchuddio â phlastig; neu trwy lapio bêliau mawr crwn gyda ffilm plastig.

Hanes[golygu | golygu cod]

Er bod rhai wedi dechrau mabwysiadu’r dechneg newydd o wneud byrnau silwair yn hanner cynta’r 1980au, haf trychinebus o wlyb 1985 a’r anhawster cael tywydd i wneud y byrnau bach arferol fu’n gyfrifol am y newid mawr. Buddsoddodd contractwyr yn y drefn newydd, ac o’i chael yn llwyddiant ac yn hwylus ("ta ta" dibynnu ar y tywydd a gorfod llwytho byrnau bach i drelar!) fe’i mabwysiadwyd gan bawb bron o hynny ymlaen. Ambell un yn dal i wneud byrnau bach am rai blynyddoedd wedyn ond llawer o ffermwyr yn buddsoddi yn eu peiriannau eu hunain.[3]

Dyma flas ar dymor "trychinebus" hel gwair 1985:

Harlech: 8 Gorffennaf 1985: Dechra torri gwair LLety Peryg. Ychydig glaw. 9fed Sych. 10fed Ychydig glaw. 11eg Glaw ar adegau. 12fed Glaw nos a bora ar adegau. 13eg Cawod nos. 14eg Dafnau.[4]

Roedd y defnydd o silwair yn achubiaeth ac yn chwyldro er yn dod atom efo problemau amgylcheddol.[1][5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Wood, Brian J. B. Microbiology of fermented foods Volume 1&2. Springer. t. 73. ISBN 978-0-7514-0216-2.
  2. George, J. Ronald, gol. (1994). Extension publications : forage and grain crops (arg. 8th). Dubuque, Iowa: Kendall/Hunt Pub. Co. ISBN 0840393415.
  3. Twm Elias, cys. pers.
  4. Dyddiaduron A.LL.J. Harlech
  5. Bwletin Llên Natur rhifyn 150, tud. 8