Sigrid Damm
Sigrid Damm | |
---|---|
Ganwyd | 7 Rhagfyr 1940 Gotha |
Dinasyddiaeth | Yr Almaen |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ysgolhaig llenyddol, ysgrifennwr |
Gwobr/au | Gwobr Lion-Feuchtwanger, Gwobr lenyddol Thüringer |
Awdures o'r Almaen yw Sigrid Damm (ganwyd 7 Rhagfyr 1940) sy'n ysgolhaig llenyddiaeth Almaeneg ac yn awdur nifer o ysgrifau ar y "Weimar Viergestirn" Wieland, Goethe, Herder a Schiller.
Fe'i ganed yn Gotha, Thuringia yn yr Almaen ar 7 Rhagfyr 1940.[1][2][3][4]
Yn Gotha hefyd y'i magwyd ac addysgwyd hi yn yr Arnoldischule, gan raddio yn 1959. O 1959 i 1965 astudiodd lenyddiaeth a hanes Almaeneg ym Mhrifysgol Jena, neu'r Friedrich-Schiller-Universität Jena. Wedi hynny, bu'n gweithio fel darlithydd prifysgol yn Jena a Berlin. Yn 1970 enillodd ei doethuriaeth mewn athroniaeth a gweithiodd fel awdur yn Verlag Volk und Wissen a gyhoeddwyd dan y teitl "Hanes Llenyddiaeth yr Almaen" (Geschichte der deutschen Literatur).
Ers 1978 mae hi'n byw fel awdur llawrydd yn Berlin. Ym 1993 bu'n ddarlithydd gwadd ym Mhrifysgolion Caeredin a Glasgow, ac yn 1994 ym Mhrifysgol Hamburg.[5]
Mae Sigrid Damm yn awdur gweithiau ar bobl llenyddiaeth glasurol y Weimar, yn bennaf. Ysgrifennai mewn cymysgedd o fywgraffiadau a ffuglen ar gyfaill plentyndod Goethe, sef Jakob Michael Reinhold Lenz a gwraig Goethe, Christiane von Goethe. Daeth hyn ag enwogrwydd mawr iddi.
Mae Sigrid Damm yn aelod o Ganolfan PEN yr Almaen ac Academi Gwyddorau a Llenyddiaeth Mainz. Ar 14 Rhagfyr 2010, hi oedd y fenyw gyntaf i dderbyn dinasyddiaeth anrhydeddus ei man geni, Gotha, a roddwyd iddi gan gyngor y ddinas.[6]
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Lion-Feuchtwanger (1987), Gwobr lenyddol Thüringer (2005) .
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb120974661. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Rhyw: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb120974661. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 19 Mehefin 2024.
- ↑ Dyddiad geni: "Sigrid Damm". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 11 Rhagfyr 2014
- ↑ Teitl y gwaith: Sigrid Damm – Lesung; cyhoeddwr: Institut Pierre Werner
- ↑ Mitgliedseintrag von Sigrid Damm bei der Akademie der Wissenschaften und der Literatur Mainz, abgerufen am 11.10.17