Sigaret?
| Cyfarwyddwr | Gareth Wynn Jones |
|---|---|
| Cynhyrchydd | Gareth Wynn Jones, Dafydd Huw Williams |
| Ysgrifennwr | Saunders Lewis |
| Addaswr | Harri Pritchard Jones |
| Cerddoriaeth | Charlie Goodhall |
| Sinematograffeg | Kevin Duggan |
| Dylunio | |
| Cwmni cynhyrchu | Ffilmiau Tŷ Gwyn |
| Dyddiad rhyddhau | 1991 |
| Gwlad | Cymru |
| Iaith | Cymraeg |
Addasiad ffilm o'r ddrama Gymerwch Chi Sigaret? gan Saunders Lewis yw Sigaret? Ffilmiau'r Tŷ Gwyn o Lanllyfni oedd yn gyfrifol am ei chynhyrchu a'i rhyddhau ym 1991.[1] Cyfarwyddwr a chynhyrchydd y ffilm oedd Gareth Wynn Jones. Harri Pritchard Jones oedd yn gyfrifol am yr addasiad.

Stori
[golygu | golygu cod]Caiff Marc dasg gan arweinwyr comiwnyddol Hwngari i drafeilio i Fienna er mwyn llofruddio Phugas, sy'n digwydd bod yn dad bedydd i'w wraig Iris. Mae Iris yn helpu Marc i drefnu cyfarfod ond mae yn erfyn ar ei gŵr i beidio â mynd ymlaen â'r llofruddiaeth.
Llwyddai Marc i gwrdd â Phugas, ond pan mae ar fîn gweithredu'r llofruddiaeth drwy ddefnyddio câs sigaret wedi'i addasu, disgynnai gleiniai rosari Iris allan o'r pecyn a sylwai nad yw'n gallu parhau â'r weithred.
Yn ôl yn Hwngari mae Iris yn ceisio ffoi gyda'r Offeiriaid, ond yn ofer.

Cynhyrchu
[golygu | golygu cod]Y bwriad gwreiddiol, a gytunwyd gyda chomisiynydd drama S4C Dafydd Huw Williams, oedd cynhyrchu trioled o ddramâu gan Saunders Lewis. Yn dilyn rhyddhau Sigaret? ym 1991, cafwyd ail gomisiwn i addasu'r ddrama Brad, a rhyddhawyd y ffilm Brad ym 1994. Esther oedd y drydedd ffilm oedd dan sylw, ond ni chafodd ei chomisiynu, yn sgil ymadawiad Dafydd Huw â'i swydd.
Cymeriadau ac actorion
[golygu | golygu cod]- Iris - Morfudd Hughes
- Marc - Eryl Huw Phillips
- Phugas - John Ogwen
- Calista - Marged Esli
- Krechlen - Wyn Bowen Harries
- Müller - Robin Griffith
- Capten Christopher - Dewi Rhys
- Offeiriad - Alun Elidyr
- Istvan - Yoland Williams
- Peilot - Iestyn Llwyd
- Nada - Nia Williams
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Dathlu Diwrnod y Llyfr ar S4C Clic | Y Wasg | S4C". www.s4c.cymru. Cyrchwyd 2025-07-31.