Sierbet

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Jariau o sierbet lliwgar mewn siop felysion

Powdwr melys byrlymog i'w fwyta drwy ddipio lolipop neu licris ynddo yw sierbet.

Tarddiad y gair[golygu | golygu cod y dudalen]

Daw'r gair Cymraeg sierbet o şerbet Twrceg trwy'r Saesneg. Benthycodd Tyrceg y gair شربت (šarbat) Perseg, sydd yn ei dro yn dod o شَرْبَة (šarba) Arabeg "diod" o شَرِبَ (šarbia) "yfed". Mae'r gair yn perthyn i'r geiriau sorbe(d) (trwy sorbet Ffrangeg, o sorbetto Eidaleg) a surop. Yn hanesyddol, ddiod feddal ffrwythau pefriog neu oer oedd sierbet, ond mae'r ystyr, y sillafu a'r ynganiad wedi newid wrth fynd o wlad i wlad.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Brausepulver yr Almaen yn debyg i sierbet. Fel arfer mae'n cael i gymysgu gyda dŵr.

Ar ddechrau'r 19eg ganrif, roedd powdwr sierbet yn dod yn boblogaidd.[1] Roedd cyfarwyddiadau un cwmni ar y pryd yn dweud, "Rhowch lwyaid o'r powdwr mewn cwpanaid o ddŵr, cymysgwch hwn a'i yfed cyn gynted â phosibl tra ei bod yn befriog. ... Gan mai fel hyn y collir y rhan fwyaf o asid carbonig ... mae'n fwy ymarferol i roi'r powdr yn y geg a'i ddilyn â rhywfaint o ddŵr." Roedd 2 g o sodiwm bicarbonad ac 1.5 g o asid tartarig yn cael eu pacio ar wahân mewn bagiau papur bach lliwgar.

Roedd sierbet yn cael ei droi i mewn i wahanol ddiodydd i greu diod befriog, fel y mae modd gwneud lemonêd o bowdwr lemonêd heddiw, cyn i ddiodydd pefriog mewn caniau ddod yn boblogaidd. Bellach defnyddir y term sierbet i gyfeirio at y powdwr hwn ac mae'n cael ei werthu fel bwyd melys.

Cynhwysion[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn y Deyrnas Unedig a gwledydd eraill y Gymanwlad, powdwr pefriog sy'n sy'n cynnwys siwgr, chyflasyn ac ac asid a bas bwytadwy yw sierbet. Gall yr asid fod yn un tartarig, sitrig neu malig, a gall y bas fod yn sodiwm bicarbonad, sodiwm carbonad, magnesiwm carbonad neu gymysgedd o'r rhain a/neu cabonadau tebyg. Er mwyn cuddio blas annymunol y powdrau adweithiol, ychwanegir llawer iawn o siwgr atynt, yn ogystal â siwgr eisin a blas ffrwythau neu hufen soda . Mae'r adwaith asid-carbonad yn digwydd os oes lleithder yn bresennol, megis sudd neu boer, a hynny sy'n gwneud y byrlymu.

Cynhyrchion[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwerthir sierbet ar ei ben ei hun neu fel sylwedd addurnol ar bethau melys eraill. Gellir mesur sierbet yn ôl ei ronynogrwydd, ei liw, ei asidedd a'i flas (blas ffrwyth sitrws sydd ganddo fel arfer).

Sherbet lemon[golygu | golygu cod y dudalen]

Losin poblogaidd yng ngwledydd y Deyrnas Unedig yw sherbet lemon ac fe'i ceir mewn llawer o siopau melysion. Dyma brif flas melysion berwi â chanol powdwr sierbet, megis losin sierbet â blas ffrwythau, gan gynnwys blas cwrens duon, mafon ac oren ymhilth y mwyaf poblogaidd. Blas sitrws sur cryf sydd gan losin sherbet lemon. Mae'r sierbet yn y canol yn ffrwydro, sy'n gwneud y losin yn fwy sur yn sydyn.[2]

Sherbet fountain[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae sherbet fountain Barratt yn cynnwys sierbet a ffon licris ac mae'n cael ei werthu ers 1925. Gwerthwyd syniad gwreiddiol y sherbet fountain i Barratt's gan Henry Edward Brunt ac fe ailfrandiwyd y melysion hyn dan eu henw nhw.

Yn y pecyn papur traddodiadol, y bwriad oedd cnoi pen y ffon i greu gwelltyn[3] a sugno'r sierbet trwyddo, lle mae'n byrlymu ac yn toddi ar y tafod. Mae'r math mwy newydd yn cynnwys ffon licris solet, felly mae'n rhaid llyfu'r sierbet oddi ar honno, neu ei fwyta'n syth o'r pecyn. Yn y pecyn gwreiddiol, roedd y dull hwn o'i fwyta yn dderbyniol hefyd. Hysbysebir hyn ar y pecyn fel "sierbet gyda dip licris".

Blas ffrwythau gyda lolipop[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae sherbet dips a sherbet dabs hefyd yn boblogaidd, fel y dip dab gan Barratt. Maent yn cynnwys pecyn bach o sierbet a lolipop wedi'i selio i mewn i'r bag. Ar ôl llyfu'r lolipop, gellir ei ddipio i mewn i'r sierbet a'i sugno'n lân, neu gellir ei ddefnyddio i wthio'r sierbet i mewn i'r geg.

Flying saucers[golygu | golygu cod y dudalen]

Wedi'u dyfeisio gan gwmni Belgica o Antwerp, disgiau bach o bapur reis bwytadwy lliwgar yw flying saucers, sydd fel arfer yn llawn o sierbet gwyn di-flas (yn union fel sherbet lemon). Cynhyrchwyd y flying saucers cyntaf yn y 1950au.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Brausepulver in Meyers Konversations-Lexikon (1895)
  2. Slater, Nigel: Eating for England: the delights and curiosities of the British at table, London: Fourth Estate 2007, ISBN 9780007199464, p. 124.
  3. Simon Bowers (2008-01-18). "Cadbury sells Barratt's Sherbet Fountain firm for £58m". The Guardian. Cyrchwyd 2013-05-20.
  4. "Zure ouwel". www.streekproduct.be (yn Iseldireg). Cyrchwyd 2 November 2018.