Neidio i'r cynnwys

Sieiloc

Oddi ar Wicipedia
cymeriad Marsiandwr Fenis
Portread yr actor Ernst von Possart o Sieiloc tua 1904.
Crewyd ganWilliam Shakespeare
CrefyddIddew
DinasyddiaethFenis

Cymeriad ffuglennol yn nrama William Shakespeare, Marsiandwr Fenis yw Sieiloc (Saesneg Shylock /ˈʃlɒk/ SHY -lok). Bathwyd yr enw Cymraeg gan J. T. Jones yn ei gyfieithiad o'r ddrama a gyhoeddwyd ym 1969. Benthyciwr arian Iddewig o Fenis yw'r cymeriad, a phrif ddihiryn y ddrama. Ei orfodi i droi at Gristnogaeth yw uchafbwynt y stori.

Nodweddir cymeriad Sieiloc gan ystradebau, megis trachwant a dialgarwch, er nad oedd hi'n gyfreithlon i Iddewon ymarfer eu cred yn Lloegr yn ystod cyfnod Shakespeare. Cafodd Iddewon eu diarddel o'r wlad ym 1290 gan Edward I; ni chafodd hyn ei wyrdroi tan canol yr 17eg ganrif (cyfnod Cromwell).

Nid enw Iddewig yw Sieiloc. Mae rhai ysgolheigion fodd bynnag yn credu ei fod yn deillio o'r enw beiblaidd Shalah, sef שלח ( Šélaḥ) yn Hebraeg. Mae Shalah yn ŵyr i Shem ac yn dad i Eber, cyndad beiblaidd pobloedd yr iaith Hebraeg. Mae holl enwau cymeriadau Iddewig yn y ddrama yn deillio o'r unigolion a restrir mewn achau yn Llyfr Genesis. Mae ysgolheigion eraill yn ategu, mai enw cyffredin Saesneg o'r 16eg ganrif oedd "Shylock" a fyddai'n gyfarwydd i Shakespeare a'i gyfoedion. Mae'n enw nodedig am ei darddiad Sacsonaidd, sy'n golygu "gwallt gwyn". Roedd Shylocks Llundain yn yr unfed ganrif ar bymtheg yn cynnwys "gofaint aur, masnachwyr, ac, yn fwyaf amlwg oll, ysgrifenwyr", [1] yn ôl yr ysgolhaig Stephen Orgel.

O fewn y ddrama

[golygu | golygu cod]

Benthyciwr arian o Iddew yw Sieiloc, sy'n benthyg 3,000 o ddycatau i'w wrthwynebydd Cristnogol Antonio, ar yr amod "os methi â thalu'n ôl [...] y rhoir yn fforffet gennyt union bwys o'th dyner gnawd".[2] Mae'r penderfyniad hwn yn cael ei danio gan ei ymdeimlad o ddial, oherwydd roedd Antonio wedi'i sarhau, ac wedi poeri ac ymosod arno'n gorfforol yn y Rialto (cyfnewidfa stoc Fenis) sawl gwaith yn y gorffennol. Yn y cyfamser, mae merch Sieiloc, Iesica, yn syrthio mewn cariad â ffrind Antonio, Lorenzo, ac yn troi at Gristnogaeth, gan adael tŷ Shylock ac yn dwyn cyfoeth helaeth oddi wrtho. Mae hyn hefyd yn ychwanegu at gynddaredd Sieiloc ac yn dyfnhau ei benderfyniad i ddial.

Caiff Sieiloc ei gyhuddo o geisio llofruddio Cristion, gweithred a all gyfiawnhau y gosb eithaf sef marwolaeth. Ond mae Antonio yn ei ryddhau heb gosb. Gorchmynnir i Sieiloc ildio hanner ei gyfoeth a'i eiddo i'r wladwriaeth a'r hanner arall i Antonio. Fel gweithred o "drugaredd", mae Antonio'n addasu'r dyfarniad, gan ofyn i Sieiloc drosglwyddo dim ond hanner ei gyfoeth – iddo ef (Antonio) – ar yr amod ei fod yn cadw dau addewid. Yn gyntaf, mae'n rhaid i Sieiloc lofnodi cytundeb sy'n gadael ei holl eiddo wedi ei farwolaeth, i Lorenzo a Iesica, ac yn ail, mae'n rhaid iddo droi'n Gristion.

Charles Macklin fel Sieiloc gan Johan Zoffany, 1768

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. quoted from Shylock is Shakespeare by Kenneth Gross, 2006, University of Chicago Press.
  2. Jones, J. T. (1969). Marsiandwr Fenis. Tŷ ar y Graig.

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • Adler, Jacob, Bywyd ar y Llwyfan: Cofiant, wedi'i gyfieithu a chyda sylwebaeth gan Lulla Rosenfeld, Knopf, Efrog Newydd, 1999, .
  • Granach, Alexander, "There Goes an Actor," cyfieithiad Willard Trask, Doubleday, Doran, Garden City, NY, 1945. Hefyd Granach, Alexander, "O'r Shtetl i'r Llwyfan: Odysei Actor Crwydrol," gyda Chyflwyniad newydd gan Herbert S., Lewis, Transaction Publishers, New Brunswick, NJ, 2010, .
  • Smith, Rob: Canllaw Myfyrwyr Caergrawnt i'r Masnachwr o Fenis . ISBN 0-521-00816-6 .