Sidney Griffith

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Sidney Griffith
Bu farw 31 Mai 1752 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth pregethwr Edit this on Wikidata

Diwygiwr crefyddol o Sir Conwy oedd Sidney Griffith (née Wynne; m. 1752) a alwyd weithiau'n "Madam Griffith".[1]

Teulu[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd Sidney yn ferch i Cadwaladr Wyn o'r Foelas yn Ysbyty Ifan[2], a galwyd hi ar ôl ei nain Sidney Thelwall o Blas-y-ward). Priododd tua 1741 â William Griffith o Gefnamwlch[3], un o Siryfion Sir Gaernarfon yn yr 17eg ganrif a meddwyn na allai hi ddygymod ag ef. Ganwyd iddynt fab yn 1742. [4]

Troedigaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Efallai oherwydd meddwdod ei gŵr, trodd at grefydd yn 1746, pan glywodd bregeth gan Peter Williams. Cyflwynwyd hi i Howel Harris ddechrau Hydref 1748, yn Llŷn a Daniel Rowland yng ngwanwyn 1749, yn Llangeitho aeth a aeth â hi i'r sasiwn yn Errwd ar 1 Chwefror ac oddi yno i Drefeca.

Mae bur debyg iddi gael affer gyda Harris, a bu'n byw gydag ef a'i wraig am flynyddoedd. Erbyn Medi v, yr oedd amgylchiadau Mrs. Griffith yn faich ar Harris — ni chynhaliai ei gŵr mohoni, a bu'n rhaid i Harris dalu drosti a gofalu am addysg ei mab. Erbyn dechrau 1752, yr oedd ei hiechyd wedi gwaethygu'n ddirfawr, ac aeth Mrs. Harris â hi i Lundain a'i rhoi yng ngofal ei brawd Watkin Wyn; bu hi farw yno 31 Mai 1752. Rhoddodd Sidney Griffith swm mawr (tua £900) i Harris at sefydlu Trefeca[5]. Cododd perthynas y ddau yn ystod achos ynglyn a'i hewyllus, ac mae dyddlyfrau Harris yn y blynyddoedd hyn yn cynnwys llawer ymadrodd amheus iawn. Dywed Richard Bennett fod ‘pobl tua Chaerfyrddin yn gwneud gogan-gerddi am Harris', a'i fod yn un (ond yn un yn unig) o achosion yr ymraniad ymysg y Methodistiaid o 1750 ymlaen.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Jenkins, R. T., (1953). GRIFFITH, SIDNEY (‘Madam Griffith '; bu farw 1752). Y Bywgraffiadur Cymreig adalwyd 9 Medi 2019.
  2. J. E. Griffith, Pedigrees, 326; gweler yr ysgrif ar y teulu
  3. J. E. Griffith, op. cit., 169; gweler yr ysgrif ar y teulu
  4. Dyddiad marw: https://biography.wales/article/s-GRIF-SID-1752; Y Bywgraffiadur Cymreig; dyddiad cyrchiad: 9 Ionawr 2019.
  5. M. H. Jones, gw. The Trevecka Letters, 188)