Siôn a Siân (drama)
Enghraifft o'r canlynol | drama |
---|---|
Awdur | Gareth F. Williams |
Iaith | Cymraeg |
Drama lwyfan ddwy-act gan Gareth F. Williams yw Siôn a Siân a gyflwynwyd gyntaf gan Gwmni Theatr Gwynedd ar ddechrau 1989, wedi'i chyfarwyddo gan Tony Llewelyn. Roedd hon ymysg cynyrchiadau cynnar y cwmni.
Dau brif gymeriad sydd yn y ddrama. Mae Siôn a Siân yn nesau at eu pedwardegau, ac yn digalonni - Siân yn athrawes ddi-briod, yn byw mewn bloc o fflatiau yng Nghaerdydd a'i phen-blwydd mawr yn nesau a hithau'n dechrau teimlo'n desprét.
Siôn yw ei chymydog, "dros dro" meddai e. Mae'n gwrthod wynebu bod ei gynhyrchydd teledu o wraig wedi ei daflu allan o'u tŷ mawr crand ar gyrion y ddinas, a symud ei chariad newydd hanner ei hoedran i mewn ati.[1]
Addaswyd y ddrama lwyfan yn ffilm i S4C ar ddechrau'r 2000au.
Ni gyhoeddwyd y ddrama hyd yma.
Cymeriadau
[golygu | golygu cod]- Siân Parry Jones
- Meinir Ifans
- Siôn Tomos
- Harri Ifans
- Eira Tomos
- Guto Jones
Cynyrchiadau nodedig
[golygu | golygu cod]Cyflwynwyd y ddrama am y tro cyntaf gan Gwmni Theatr Gwynedd ym 1989. Cast:
- Siân Parry Jones - Janet Aethwy
- Meinir Ifans - Judith Humphreys
- Siôn Tomos - John Glyn Owen
- Harri Ifans - Dewi Rhys Williams
- Eira Tomos - Esyllt Harker
- Guto Jones - Llion Williams
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Rhaglen Cwmni Theatr Gwynedd o Siôn a Siân 1989.